Malachi 4 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Barn Duw ar yr anwir, 2 a’i fendith ar y daionus. 4 Y mae yn eu hannog i fyfyrio ar y gyfraith; 5 ac yn adrodd iddynt ddyfodiad a swydd Eleias.

1Canys wele y dydd yn dyfod, yn llosgi megis ffwrn; a’r holl feilchion, a holl weithredwyr anwiredd, a fyddant Obad 18sofl: a’r dydd sydd yn dyfod a’u llysg hwynt, medd Arglwydd y lluoedd, fel Amos 2:9na adawo iddynt na gwreiddyn na changen.

2Ond Luc 1:78; Eff 5:14; 2 Pedr 1:19; Dat 2:28Haul cyfiawnder a gyfyd i chwi, y rhai ydych yn ofni fy enw, â meddyginiaeth yn ei esgyll; a chwi a ewch allan, ac a gynyddwch megis lloi pasgedig.

3A chwi a fethrwch yr annuwiolion; canys byddant yn lludw dan wadnau eich traed chwi, yn y dydd y gwnelwyf hyn, medd Arglwydd y lluoedd.

4Cofiwch Exod 20:3gyfraith Moses fy ngwas, yr hon a orchmynnais iddo ef Deut 4:10yn Horeb i holl Israel, Salm 147:19y deddfau a’r barnedigaethau.

5Wele, mi a anfonaf i chwi Mat 11:14; 17:11; Marc 9:11; Luc 1:17Eleias y proffwyd, cyn dyfod dydd mawr ac ofnadwy yr Arglwydd:

6Ac Sech 5:3efe a dry galon y tadau at y plant, a chalon y plant at eu tadau; rhag i mi ddyfod a tharo y ddaear â melltith.

TERFYN Y PROFFWYDI

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help