1Geiriau Lemwel frenin; yr un o’r rhai gorthrymedig.
6i’r rhai trwm eu calon.
7Yfed efe, fel yr anghofio ei dlodi; ac na feddylio am ei flinfyd mwy.
8prŷn ef; â gwaith ei dwylo hi a blanna winllan.
17Hi a wregysa ei llwynau â nerth, ac a gryfha ei breichiau.
18Hi a wêl fod ei marsiandïaeth yn fuddiol; ni ddiffydd ei channwyll ar hyd y nos.
19Hi a rydd ei llaw ar y werthyd, a’i llaw a ddeil y cogail.
20Hi a egyr ei llaw i’r tlawd, ac a estyn ei dwylo i’r anghenus.
21Nid ofna hi am ei thylwyth rhag yr eira; canys ei holl dŷ hi a ddilledir ag ysgarlad.
22Hi a weithia iddi ei hun garpedau; ei gwisg yw sidan a phorffor.
23Hynod yw ei gŵr hi yn y pyrth, pan eisteddo gyda henuriaid y wlad.
24Hi a wna liain main, ac a’i gwerth, ac a rydd wregysau at y marsiandwr.
25Nerth ac anrhydedd yw ei gwisg; ac yn yr amser a ddaw hi a chwardd.
26Hi a egyr ei genau yn ddoeth: a chyfraith trugaredd sydd ar ei thafod hi.
27Hi a graffa ar ffyrdd tylwyth ei thŷ: ac ni fwyty hi fara seguryd.
28Ei phlant a godant, ac a’i galwant yn ddedwydd; ei gŵr hefyd, ac a’i canmol hi:
29Llawer merch a weithiodd yn rymus; ond ti a ragoraist arnynt oll.
30Siomedig yw ffafr, ac ofer yw tegwch; ond benyw yn ofni yr Arglwydd, hi a gaiff glod.
31Rhoddwch iddi o ffrwyth ei dwylo; a chanmoled ei gweithredoedd hi yn y pyrth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
