1Ymhen echwynnwr i’w gymydog yn rhydd ei echwyn a echwynnodd efe: na fynned hynny drachefn gan ei gymydog, neu ei frawd; canys cyhoeddwyd gollyngdod yr Arglwydd.
3Megis na byddo ohonot ti gardotyn: canys yr Arglwydd gan fendithio a’th fendithia di, yn y tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth i’w feddiannu;
5Yn unig os gan wrando y gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw a gwneuthur yr holl orchmynion yma, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw.
6Canys yr Arglwydd dy Dduw a’th fendithia, megis y llefarodd wrthyt, fel ddrwg feddwl i ddywedyd, Agos yw’r seithfed flwyddyn, blwyddyn y gollyngdod; a bod dy Pen 28:54, 56; Diar 23:6; 28:22; Mat 20:15lygad yn ddrwg yn erbyn dy frawd tlawd, rhag rhoddi iddo, a llefain ohono ef ar yr Arglwydd rhagot, a’i fod yn bechod i ti.
10Gan roddi dod iddo, ac na fydded drwg gan dy galon pan roddych iddo: canys o achos y peth hyn y’th fendithia yr Arglwydd dy Dduw yn dy holl waith, ac yn yr hyn oll y dodych dy law arno.
11Canys Mat 26:11; Ioan 12:8ni dderfydd y tlawd o ganol y tir: am hynny yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti, gan ddywedyd, Gan agoryd agor dy law i’th frawd, i’th anghenus ac i’th dlawd, yn dy dir.
12 Exod 21:2; Jer 34:14 Os gwerthir dy frawd, Hebread, neu Hebrees, i ti, a’th wasanaethu chwe blynedd; y seithfed flwyddyn gollwng ef yn rhydd oddi wrthyt.
13A phan ollyngech ef yn rhydd oddi wrthyt, na ollwng ef yn wag:
14Gan lwytho llwytha ef o’th braidd, ac o’th ysgubor, ac o’th winwryf: o’r hyn y’th fendithiodd yr Arglwydd dy Dduw, dod iddo.
15A chofia mai gwas fuost yn nhir yr Aifft, a’th waredu o’r Arglwydd dy Dduw: am hynny yn ydwyf yn gorchymyn y peth hyn i ti heddiw.
16Ond os dywed wrthyt, Nid af allan oddi wrthyt; am ei fod yn dy hoffi di a’th dŷ; oherwydd bod yn dda arno ef gyda thi:
17Exod 21:6Yna cymer fynawyd, a dod trwy ei glust ef, ac yn y ddôr; a bydded yn was i ti byth: felly hefyd y gwnei i’th forwyn.
18Na fydded caled gennyt ei ollwng ef yn rhydd oddi wrthyt, canys gwasanaethodd di werth Edrych Esa 16:14; 21:16dau gyflog gweinidog, chwe blynedd: a’r Arglwydd dy Dduw a’th fendithia yn yr hyn oll a wnelych.
19 Exod 13:2; 34:19; Lef 27:26; Num 3:13 Pob cyntaf‐anedig yr hwn a enir o’th wartheg, neu o’th ddefaid, yn wryw, a gysegri di i’r Arglwydd dy Dduw: na weithia â chyntaf‐anedig dy ychen, ac na chneifia gyntaf‐anedig dy ddefaid.
20Pen 12:7, 17; 14:23; 16:11, 14Gerbron yr Arglwydd dy Dduw y bwytei ef bob blwyddyn, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd, ti a’th deulu.
21Lef 22:20; Pen 17:1Ond os bydd anaf arno, os cloff neu ddall fydd, neu arno ryw ddrwg anaf arall; nac abertha ef i’r Arglwydd dy Dduw.
22O fewn dy byrth y bwytei ef: Pen 12:15yr aflan a’r glân ynghyd a’i bwyty, megis yr iwrch, ac megis y carw.
23Pen 12:16, 23Eto na fwyta ei waed ef; tywallt hwnnw ar y ddaear fel dwfr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.