1Yna y canodd Debora a Barac mab Abinoam, y diwrnod hwnnw, gan ddywedyd,
2Am ddial dialeddau Israel, ac ymgymell o’r bobl, bendithiwch yr Arglwydd.
3Clywch, O frenhinoedd; gwrandewch, O dywysogion: myfi, myfi a ganaf i’r Arglwydd; canaf fawl i Arglwydd Dduw Israel.
4O Arglwydd, lleferwch.
11Y rhai a waredwyd rhag trwst y saethyddion yn y lleoedd y tynnir dwfr; yno yr adroddant gyfiawnderau yr Arglwydd, cyfiawnderau tuag at y trefydd yn Israel: yna pobl yr Arglwydd a ânt i waered i’r pyrth.
12Deffro, deffro, Debora; deffro, deffro; traetha gân: cyfod, Barac, a chaethgluda dy gaethglud, O fab Abinoam.
13Yna y gwnaeth i’r hwn a adewir lywodraethu ar bendefigion y bobl: yr Arglwydd a roddes i mi lywodraeth ar gedyrn.
14O Effraim yr oedd eu gwreiddyn hwynt yn erbyn Amalec; ar dy ôl di, Benjamin, ymysg dy bobl: y deddfwyr a ddaeth i waered o Machir, yr ysgrifenyddion o Sabulon.
15A thywysogion Issachar oedd gyda Debora; ie, Issachar, a Am neilltuaeth Reuben yr oedd mawr ofal calon.
16Paham yr arhosaist rhwng y corlannau, i wrando brefiadau y defaid? Am neilltuaeth Reuben yr oedd mawr ofal calon.
17Gilead a drigodd o’r tu hwnt i’r Iorddonen: a phaham yr erys Dan mewn llongau? Aser a drigodd wrth borthladd y môr, ac a arhosodd ar ei adwyau.
18Pobl roddes eu heinioes i farw; felly Nafftali ar uchelfannau y maes.
19A brenhinoedd a ddaethant, ac a ymladdasant; yna brenhinoedd Canaan a ymladdasant yn Taanach, wrth ddyfroedd Megido; ni chymerasant elw o arian.
20O’r nefoedd yr ymladdasant; y sêr yn eu graddau a ymladdodd yn erbyn Sisera.
21Afon Cison a’u hysgubodd hwynt; yr hen afon, yr afon Cison. Fy enaid, ti a sethraist gadernid.
22Yna y drylliodd carnau y meirch gan garlamau, carlamau ei gryfion ef.
23Melltigwch Meros, eb angel yr Arglwydd, gan felltigo melltigwch ei thrigolion: am bwyodd Sisera, ac a dorrodd ei ben ef; gwanodd hefyd, a thrywanodd ei arlais ef.
27Wrth ei thraed yr ymgrymodd efe; syrthiodd, gorweddodd: wrth ei thraed yr ymgrymodd efe, y syrthiodd: lle yr ymgrymodd, yno y syrthiodd yn farw.
28Mam Sisera a edrychodd trwy ffenestr, ac a waeddodd trwy’r dellt, Paham yr oeda ei gerbyd ddyfod? paham yr arafodd olwynion ei gerbydau?
29Ei harglwyddesau doethion a’i hatebasant; hithau hefyd a atebodd iddi ei hun,
30gŵr? anrhaith o wisgoedd symudliw i Sisera, anrhaith o wniadwaith symudliw, symudliw o wniadwaith o’r ddeutu, cymwys i yddfau yr anrheithwyr?
31Felly y darfyddo am dy holl elynion, O Arglwydd: a bydded y rhai a’i hoffant ef 2 Sam 23:4fel yr haul yn myned rhagddo yn ei rym. A’r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.