1 Molwch yr Arglwydd. Salm 103:1Fy enaid, mola di yr Arglwydd.
2 Salm 104:33 Molaf yr Arglwydd yn fy myw: canaf i’m Duw tra fyddwyf.
3 Salm 118:8, 9; Esa 2:22 Na hyderwch ar dywysogion, nac ar fab dyn, yr hwn nid oes iachawdwriaeth ynddo.
4 Salm 104:29; Preg 12:7; Esa 2:22 Ei anadl a â allan, efe a ddychwel i’w ddaear: y dydd hwnnw Edrych 1 Cor 2:6y derfydd am ei holl amcanion ef.
5 Jer 17:7 Gwyn ei fyd yr hwn y mae Duw Jacob yn gymorth iddo, sydd â’i obaith yn yr Arglwydd ei Dduw:
6 Gen 1:1 Yr hwn a wnaeth nefoedd a daear, y môr, a’r hyn oll y sydd ynddynt: yr hwn sydd yn cadw gwirionedd yn dragywydd:
7 Salm 103:6 Yr hwn sydd yn gwneuthur barn i’r rhai gorthrymedig, yn rhoddi bara i’r newynog. Salm 68:6; 107:10, 14Yr Arglwydd sydd yn gollwng y carcharorion yn rhydd.
8 Mat 9:30; Ioan 9:7–32 Yr Arglwydd sydd yn agoryd llygaid y deillion: Salm 145:14; 147:6; Luc 13:13yr Arglwydd sydd yn codi y rhai a ddarostyngwyd: yr Arglwydd sydd yn hoffi y rhai cyfiawn.
9 Deut 10:18; Salm 68:5 Yr Arglwydd sydd yn cadw y dieithriaid: efe a gynnal yr amddifad a’r weddw; ac a ddadymchwel ffordd y rhai annuwiol.
10 Exod 15:18; Salm 10:16; 145:13 Yr Arglwydd a deyrnasa byth, sef dy Dduw di, Seion, dros genhedlaeth a chenhedlaeth. Molwch yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
