1A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
2Llefara wrth Aaron, a dywed wrtho, Pan Ac offrymed Aaron y Lefiaid gerbron yr Arglwydd, yn offrwm gan feibion Israel, fel y byddont hwy i wasanaethu gwasanaeth yr Arglwydd.
12A gosoded y Lefiaid eu dwylo ar ben y bustych: ac offrwm dithau un yn bech‐aberth a’r llall yn offrwm poeth i’r Arglwydd, i wneuthur cymod dros y Lefiaid.
13A gosod y Lefiaid gerbron Aaron, a cherbron ei feibion, ac offrwm hwynt yn offrwm i’r Arglwydd.
14A neilltua’r Lefiaid o blith meibion Israel, a Pen 3:45bydded y Lefiaid yn eiddof fi.
15Wedi hynny aed y Lefiaid i mewn i wasanaethu pabell y cyfarfod; a glanha di hwynt, ac offryma hwynt yn offrwm.
16Canys hwynt a roddwyd yn rhodd i mi o blith meibion Israel: Pen 3:12, 45yn lle agorydd pob croth, sef pob cyntaf‐anedig o feibion Israel, y cymerais hwynt i mi.
17Exod 13:2, 12, 15; Pen 3:13 Luc 2:23Canys i mi y perthyn pob cyntaf‐anedig ymhlith meibion Israel, o ddyn ac o anifail: er y dydd y trewais bob cyntaf‐anedig yng ngwlad yr Aifft, y sancteiddiais hwynt i mi fy hun.
18A chymerais y Lefiaid yn lle pob cyntaf‐anedig o feibion Israel.
19A Pen 3:9rhoddais y Lefiaid yn rhodd i Aaron, ac i’w feibion, o blith meibion Israel, i wasanaethu gwasanaeth meibion Israel ym mhabell y cyfarfod, ac i wneuthur cymod dros feibion Israel; Edrych 2 Cron 26:16fel na byddo pla ar feibion Israel, pan ddelo meibion Israel yn agos at y cysegr.
20A gwnaeth Moses ac Aaron, a holl gynulleidfa meibion Israel, i’r Lefiaid, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses am y Lefiaid: felly y gwnaeth meibion Israel iddynt.
21A’r Lefiaid a lanhawyd, ac a olchasant eu dillad: ac Aaron a’u hoffrymodd hwynt yn offrwm gerbron yr Arglwydd: a gwnaeth Aaron gymod drostynt i’w glanhau hwynt.
22Ac wedi hynny y Lefiaid a ddaethant i wasanaethu gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod, gerbron Aaron a’i feibion; Pen 4:4megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses am y Lefiaid, felly y gwnaethant iddynt.
23A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
24Dyma’r hyn a berthyn i’r Lefiaid: o fab pum mlwydd ar hugain ac uchod, y deuant i filwrio milwriaeth yng ngwasanaeth pabell y cyfarfod.
25Ac o fab dengmlwydd a deugain y caiff un ddychwelyd yn ei ôl o filwriaeth y gwasanaeth, fel na wasanaetho mwy.
26Ond gwasanaethed gyda’i frodyr ym mhabell y cyfarfod, i oruchwylio; ac na wasanaethed wasanaeth: fel hyn y gwnei i’r Lefiaid yn eu goruchwyliaeth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.