1A dynni di y lefiathan allan â bach? neu a rwymi di ei dafod ef â rhaff?
2A osodi di fach yn ei drwyn ef? neu a dylli di asgwrn ei ên ef â mynawyd?
3A fawr ymbil efe â thi? a ddywed efe wrthyt ti yn deg?
4A wna efe amod â thi? a gymeri di ef yn was tragwyddol?
5A chwaraei di ag ef fel ag aderyn? neu a rwymi di ef i’th lancesau?
6A swpera cyfeillion arno? a gyfrannant hwy ef rhwng marsiandwyr?
7A lenwi di ei groen ef â phigau heyrn? neu ei ben â thryferau?
8Gosod dy law arno ef; cofia y rhyfel; na wna mwy.
9Wele, ofer ydyw ei obaith ef: oni chwymp un gan ei olwg ef?
10Nid oes neb mor hyderus â’i godi ef: a phwy a saif ger fy mron i?
11emau, wedi eu cau ynghyd megis â sêl gaeth.
16Y mae y naill mor agos at y llall, fel na ddaw gwynt rhyngddynt.
17Pob un a lŷn wrth ei gilydd; hwy a gydymgysylltant, fel na wahenir hwy.
18Wrth ei disian ef y tywynna goleuni, a’i lygaid ef sydd fel amrantau y bore.
19Ffaglau a ânt allan, a gwreichion tanllyd a neidiant o’i enau ef.
20Mwg a ddaw allan o’i ffroenau, fel o bair neu grochan berwedig.
21Ei anadl a wna i’r glo losgi, a fflam a ddaw allan o’i enau.
22Yn ei wddf y trig cryfder, a thristwch a dry yn llawenydd o’i flaen ef.
23Llywethau ei gnawd a lynant ynghyd: caledodd ynddo ei hun, fel na syflo.
24Caled ydyw ei galon fel carreg: a chaled fel darn o’r maen isaf i felin.
25Rhai cryfion a ofnant pan godo efe: rhag ei ddrylliadau ef yr ymlanhânt.
26Cleddyf yr hwn a’i trawo, ni ddeil; y waywffon, y bicell, na’r llurig.
27Efe a gyfrif haearn fel gwellt, a phres fel pren pwdr.
28Ni phair saeth iddo ffoi: cerrig tafl a droed iddo yn sofl.
29Picellau a gyfrifir fel soflyn; ac efe a chwardd wrth ysgwyd gwaywffon.
30Dano ef y bydd megis darnau llymion o lestri pridd: efe a daena bethau llymion ar hyd y clai.
31Efe a wna i’r dyfnder ferwi fel crochan: efe a esyd y môr fel crochan o ennaint.
32Efe a wna lwybr golau ar ei ôl; fel y tybygid fod y dyfnder yn frigwyn.
33Nid oes ar y ddaear gyffelyb iddo, yr hwn a wnaethpwyd heb ofn.
34Efe a edrych ar bob peth uchel: brenin ydyw ar holl feibion balchder.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.