1Gwrando fi pan alwyf, O Dduw fy nghyfiawnder: mewn cyfyngder yr ehengaist arnaf; trugarha wrthyf, ac erglyw fy ngweddi.
2O feibion dynion, pa hyd y trowch fy ngogoniant yn warth? yr hoffwch wegi, ac yr argeisiwch gelwydd? Sela.
3Ond gwybyddwch i’r Arglwydd neilltuo y duwiol iddo ei hun: yr Arglwydd a wrendy pan alwyf arno.
4 Eff 4:26 Ofnwch, ac na phechwch: Salm 77:6ymddiddenwch â’ch calon ar eich gwely, a thewch. Sela.
5Aberthwch Deut 33:19; Salm 50:14; 51:19ebyrth cyfiawnder; a gobeithiwch yn yr Arglwydd.
6Llawer sydd yn dywedyd, Pwy a ddengys i ni ddaioni? Num 6:26; Salm 80:3, 7, 19; 119:135 Arglwydd, dyrcha arnom lewyrch dy wyneb.
7Rhoddaist lawenydd yn fy nghalon, mwy na’r amser yr amlhaodd eu hŷd a’u gwin hwynt.
8 Job 11:18, 19; Salm 3:5 Mewn heddwch hefyd y gorweddaf, ac yr hunaf: canys ti, Arglwydd, yn unig a wnei i mi Lef 25:18, 19; 26:5; Deut 12:10drigo mewn diogelwch.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
