Numeri 16 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Gwrthryfel Cora, Dathan, ac Abiram. 23 Moses yn gwahanu y bobl oddi wrth bebyll y gwrthryfelwyr. 31 Y ddaear yn llyncu Cora: a thân yn difa y lleill. 36 Cadw y thuserau er mwyn defnydd sanctaidd. 41 Lladd pedair mil ar ddeg a saith gant, am rwgnach yn erbyn Moses ac Aaron. 46 Aaron, trwy arogl‐darthu, yn atal y pla.

1Yna dynni di lygaid y gwŷr hyn? ni ddeuwn ni i fyny ddim.

15Yna y digiodd Moses yn ddirfawr, ac y dywedodd wrth yr Arglwydd, wna newyddbeth, fel yr agoro’r ddaear ei safn, a’u llyncu hwynt, a’r hyn oll sydd eiddynt, fel y disgynnont yn fyw i uffern; yna y cewch wybod ddigio o’r gwŷr hyn yr Arglwydd.

31 i uffern; a’r ddaear a gaeodd arnynt: a difethwyd hwynt o blith y gynulleidfa.

34A holl Israel, y rhai oedd o’u hamgylch hwynt, a ffoesant wrth eu gwaedd hwynt: canys dywedasant, Ciliwn, rhag i’r ddaear ein llyncu ninnau.

35Tân hefyd a aeth allan oddi wrth yr Arglwydd, ac a ddifaodd y dau cant a’r deg a deugain o wŷr oedd yn offrymu yr arogl‐darth.

36A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

37Dywed wrth Eleasar, mab Aaron yr offeiriad, am godi ohono efe y thuserau o fysg y llosg; a gwasgara y tân oddi yno allan: canys Edrych Lef 27:28sanctaidd ydynt:

38Sef thuserau y rhai hyn a bechasant yn erbyn eu heneidiau eu hun; a gweithier hwynt yn ddalennau llydain, i fod yn gaead i’r allor; canys offrymasant hwynt gerbron yr Arglwydd; am hynny sanctaidd ydynt: a byddant yn arwydd i feibion Israel.

39A chymerodd Eleasar yr offeiriad y thuserau pres, â’r rhai yr offrymasai y gwŷr a losgasid; ac estynnwyd hwynt yn gaead i’r allor:

40Yn goffadwriaeth i feibion Israel; fel na nesao gŵr dieithr, yr hwn ni byddo o had Aaron, i losgi arogl‐darth gerbron yr Arglwydd; ac na byddo fel Cora a’i gynulleidfa: megis y llefarasai yr Arglwydd trwy law Moses wrtho ef.

41A holl gynulleidfa meibion Israel a duchanasant drannoeth yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron, gan ddywedyd, Chwi a laddasoch bobl yr Arglwydd.

42A bu, wedi ymgasglu o’r gynulleidfa yn erbyn Moses ac Aaron, edrych ohonynt ar babell y cyfarfod: ac wele, toasai y cwmwl hi, ac ymddangosodd gogoniant yr Arglwydd.

43Yna y daeth Moses ac Aaron o flaen pabell y cyfarfod.

44A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

45Ciliwch o blith y gynulleidfa hon, a mi a’u difâf hwynt yn ddisymwth. A Pen 20:6hwy a syrthiasant ar eu hwynebau.

46Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, Cymer thuser, a dod dân oddi ar yr allor ynddi, a gosod arogl‐darth arni, a dos yn fuan at y gynulleidfa, a gwna gymod drostynt: canys digofaint a aeth allan oddi gerbron yr Arglwydd; dechreuodd y pla.

47A chymerodd Aaron megis y llefarodd Moses, ac a redodd i ganol y gynulleidfa; ac wele, dechreuasai y pla ar y bobl: ac efe a rodd arogl‐darth, ac a wnaeth gymod dros y bobl.

48Ac efe a safodd rhwng y meirw a’r byw; a’r pla a ataliwyd.

49A’r rhai a fuant feirw o’r pla oedd bedair mil ar ddeg a saith gant, heblaw y rhai a fuant feirw yn achos Cora.

50A dychwelodd Aaron at Moses i ddrws pabell y cyfarfod: a’r pla a ataliwyd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help