Job 40 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Job yn ymostwng ger bron Duw. 6 Duw yn ei gyffroi ef i ddangos ei gyfiawnder, a’i allu, a’i ddoethineb. 15 Am y behemoth.

1Yr Arglwydd hefyd a atebodd Job, ac a ddywedodd,

2Ai dysgeidiaeth yw ymryson â’r Hollalluog? a argyhoeddo Dduw, atebed i hynny.

3A Job a atebodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd,

4Wele, gwael ydwyf; pa beth a atebaf i ti? y behemoth, yr hwn a wneuthum gyda thi; glaswellt a fwyty efe fel ych.

16Wele yn awr, ei gryfder ef sydd yn ei lwynau, a’i nerth ym mogel ei fol.

17Efe a gyfyd ei gynffon fel cedrwydden: gewynnau ei arennau ef sydd blethedig.

18Pibellau pres ydyw ei esgyrn ef: ei esgyrn sydd fel ffyn heyrn.

19Pennaf o ffyrdd Duw ydyw efe: yr hwn a’i gwnaeth a all beri i’w gleddyf nesáu ato ef.

20Y mynyddoedd yn ddiau a ddygant laswellt iddo: ac yno y chwery holl anifeiliaid y maes.

21Efe a orwedd dan goedydd cysgodfawr, mewn lloches o gyrs a siglennydd.

22Coed cysgodfawr a’i gorchuddiant â’u cysgod: helyg yr afon a’i hamgylchant.

23Wele, efe a yf yr afon, ac ni phrysura: efe a obeithiai y tynnai efe’r Iorddonen i’w safn.

24A ddeil neb ef o flaen ei lygaid? a dylla neb ei drwyn ef â bachau?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help