1 Ioan 1 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

A.D. Gwedi 90. —1 Y mae efe yn gosod allan berson Crist, yn yr hwn y mae i ni fywyd tragwyddol, trwy gymdeithas â Duw. 5 Rhaid i ni ymroi i sancteiddrwydd buchedd, i dystiolaethu gwirionedd y gymdeithas honno, a’n ffydd: a hefyd i’n sicrhau ein hunain o faddeuant pechodau, trwy farwolaeth Crist.

1Yr Ioan 1:1hyn oedd o’r dechreuad, yr hyn a glywsom, yr hyn a welsom â’n llygaid, Ioan 1:14; 2 Pedr 1:16; Pen 4:14yr hyn a edrychasom arno, ac Luc 24:39; Ioan 20:27a deimlodd ein dwylo am Air y bywyd;

2(Canys y bywyd 1 Tim 3:16a eglurhawyd, ac ni a welsom, ac ydym yn tystiolaethu, ac yn mynegi i chwi’r bywyd tragwyddol, Ioan 1:1, 2yr hwn oedd gyda’r Tad, ac a eglurhawyd i ni;)

3Yr hyn a welsom ac a glywsom yr ydym yn ei fynegi i chwi, fel y caffoch chwithau hefyd gymdeithas gyda ni: a’n cymdeithas ni yn wir sydd gyda’r Tad, a chyda’i Fab ef Iesu Grist.

4A’r pethau hyn yr ydym yn eu hysgrifennu atoch, 2 Ioan 12fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn.

5Pen 3:11A hon yw’r genadwri a glywsom ganddo ef, ac yr ydym yn ei hadrodd i chwi; Mai Ioan 1:9; 8:12; 9:5; 12:35, 36goleuni yw Duw, ac nad oes ynddo ddim tywyllwch.

6Pen 2:4Os dywedwn fod i ni gymdeithas ag ef, a rhodio yn y tywyllwch, celwyddog ydym, ac nid ydym yn gwneuthur y gwirionedd:

7Eithr os rhodiwn yn y goleuni, megis y mae efe yn y goleuni, y mae i ni gymdeithas â’n gilydd, a 1 Cor 6:11; Heb 9:14; 1 Pedr 1:19; Dat 1:5gwaed Iesu Grist ei Fab ef, sydd yn ein glanhau ni oddi wrth bob pechod.

81 Bren 8:46; 2 Cron 6:36; Diar 20:9; Preg 7:20; Iago 3:2Os dywedwn nad oes ynom bechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain, a’r gwirionedd nid yw ynom.

9Salm 32:5; Diar 28:13Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlon yw efe a chyfiawn, fel y maddeuo i ni ein pechodau, ac y’n glanhao oddi wrth bob anghyfiawnder.

10Os dywedwn na phechasom, yr ydym yn ei wneuthur ef yn gelwyddog, a’i air ef nid yw ynom.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help