Genesis 48 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Joseff a’i ddau fab yn ymweled â’i dad yn ei glefyd. 2 Jacob yn ymgryfhau i’w bendithio hwy. 3 Yn adrodd yr addewid. 5 Yn cymryd Effraim a Manasse yn eiddo ei hun. 7 Yn crybwyll wrtho am fedd ei fam. 9 Yn bendithio Effraim a Manasse. 17 Yn gosod yr ieuengaf o flaen yr hynaf. 21 Yn proffwydo am eu dychweliad hwy i Canaan.

1A bu, wedi’r pethau hyn, ddywedyd o un wrth Joseff, Wele, y mae dy dad yn glaf. Ac efe a gymerth ei ddau fab gydag ef, Manasse ac Effraim.

2A mynegodd un i Jacob, ac a ddywedodd, Wele dy fab Joseff yn dyfod atat. Ac Israel a ymgryfhaodd, ac a eisteddodd ar y gwely.

3A dywedodd Jacob wrth Joseff, Duw Hollalluog a ymddangosodd i mi yn Mesopotamia, bu drymion gan henaint, fel na allai efe weled; ac efe a’u dygodd hwynt ato ef: yntau a’u cusanodd hwynt, ac a’u cofleidiodd.

11Dywedodd Israel hefyd wrth Joseff, Ni feddyliais weled dy wyneb; eto, wele, parodd Duw i mi weled dy had hefyd.

12A Joseff a’u tynnodd hwynt allan wrth ei liniau ef, ac a ymgrymodd i lawr ar ei wyneb.

13Cymerodd Joseff hefyd hwynt ill dau, Effraim yn ei law ddeau tua llaw aswy Israel, a Manasse yn ei law aswy tua llaw ddeau Israel; ac a’u nesaodd hwynt ato ef.

14Ac Israel a estynnodd ei law ddeau, ac a’i gosododd ar ben Effraim, (a hwn oedd yr ieuangaf,) a’i law aswy ar ben Manasse: gan gyfarwyddo ei ddwylo trwy wybod; canys Manasse oedd y cynfab.

15Ac heigiant hefyd yn lliaws yng nghanol y wlad.

17Pan welodd Joseff osod o’i dad ei law ddeau ar ben Effraim, bu anfodlon ganddo: ac efe a ddaliodd law ei dad, i’w symud hi oddi ar ben Effraim, ar ben Manasse.

18Dywedodd Joseff hefyd wrth ei dad, Nid felly, fy nhad: canys dyma’r cynfab, gosod dy law ddeau ar ei ben ef.

19A’i dad a omeddodd, ac a ddywedodd, Mi a wn, fy mab, mi a wn: bydd hwn hefyd yn bobl, a mawr fydd hwn hefyd; ond yn wir lliaws o genhedloedd.

20Ac efe a’u bendithiodd hwynt yn y dydd hwnnw, gan ddywedyd, Felly Ruth 4:11, 12Ynot ti y bendithia Israel, gan ddywedyd, Gwnaed Duw di fel Effraim, ac fel Manasse. Ac efe a osododd Effraim o flaen Manasse.

21Dywedodd Israel hefyd wrth Joseff, Wele fi yn marw; a bydd Duw gyda chwi, ac efe a’ch dychwel chwi i dir eich tadau.

22A Jos 24:32; Ioan 4:5mi a roddais i ti un rhan goruwch dy frodyr, yr hon a ddygais o law yr Amoriaid â’m cleddyf ac â’m bwa.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help