1 Molwch yr Arglwydd. Salm 128:1Gwyn ei fyd y gŵr a ofna yr Arglwydd, ac sydd yn hoffi ei orchmynion ef yn ddirfawr.
2Ei had fydd gadarn ar y ddaear: cenhedlaeth y rhai uniawn a fendithir.
3Golud a chyfoeth fydd yn ei dŷ ef: a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth.
4 Job 11:17; Salm 97:11 Cyfyd goleuni i’r rhai uniawn yn y tywyllwch: trugarog, a thosturiol, a chyfiawn, yw efe.
5 Salm 37:26; Luc 6:35 Gŵr da sydd gymwynasgar, ac yn rhoddi benthyg: wrth farn y llywodraetha efe ei achosion.
6Yn ddiau nid ysgogir ef byth: Diar 10:7y cyfiawn fydd byth mewn coffadwriaeth.
7 Diar 1:33 Nid ofna efe rhag chwedl drwg: ei galon sydd ddi‐sigl, yn ymddiried yn yr Arglwydd.
8Ategwyd ei galon: nid ofna efe, hyd oni welo ei ewyllys ar ei elynion.
9 2 Cor 9:9 Gwasgarodd, rhoddodd i’r tlodion; a’i gyfiawnder sydd yn parhau byth; Salm 75:10ei gorn a ddyrchefir mewn gogoniant.
10 Edrych Luc 13:28 Yr annuwiol a wêl hyn, ac a ddigia; Salm 37:12efe a ysgyrnyga ei ddannedd, ac Salm 58:7, 8a dawdd ymaith: Diar 10:28derfydd am ddymuniad y rhai annuwiol.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
