Diarhebion 28 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

Athrawiaethau cyffredinol ynghylch annuwioldeb, a duwiol burdeb.

1Yr lle y byddo gŵr pwyllog synhwyrol, y pery hi yn hir.

3Gŵr tlawd yn gorthrymu tlodion, sydd debyg i lifddwfr yr hwn ni ad luniaeth.

4fyddo gydymaith i loddestwyr, a gywilyddia ei dad.

8Job 27:16, 17; Pen 13:22; Preg 2:26Y neb a chwanego ei gyfoeth trwy usuriaeth ac ocraeth, sydd yn casglu i’r neb a fydd trugarog wrth y tlawd.

9Salm 66:18; 109:7; Pen 15:8Y neb a dry ei glust ymaith rhag gwrando’r gyfraith, fydd ffiaidd ei weddi hefyd.

10Pen 26:27Y neb a ddeno y cyfiawn i ffordd ddrwg, a syrth yn ei bydew ei hun: ond y cyfiawn a feddianna ddaioni.

11Gŵr cyfoethog sydd ddoeth yn ei olwg ei hun: ond y tlawd deallus a’i chwilia ef allan.

12ad. 28; Pen 11:10; 29:2; Preg 10:6Pan fyddo llawen y cyfiawn, y mae anrhydedd mawr: ond pan ddyrchafer yr annuwiolion, y chwilir am ddyn.

13Salm 32:3, 5; 1 Ioan 1:9, 10Y neb a guddio ei bechodau, ni lwydda: ond y neb a’u haddefo, ac a’u gadawo, a gaiff drugaredd.

14Gwyn ei fyd y dyn Pen 23:17; Esa 66:2, 5a ofno yn wastadol: ond Rhuf 11:20y neb a galedo ei galon, a ddigwydda i ddrwg.

15Fel y llew rhuadus, a’r arth wancus, yw llywydd annuwiol i bobl dlodion.

16Penadur heb ddeall sydd yn fawr ei drawsedd: ond y neb a gasao gybydd‐dra, a estyn ei ddyddiau.

17Gen 9:6; Exod 21:14Dyn a wnelo drawsedd i waed neb, a ffy i’r pwll; nac atalied neb ef.

18Pen 10:9Y neb a rodio yn uniawn, a waredir: ond ad. 6y neb a fyddo traws ei ffyrdd, a syrth ar unwaith.

19Pen 12:11Y neb a lafurio ei dir, a ddigonir o fara: ond y neb a ganlyno oferwyr, a gaiff ddigon o dlodi.

20Gŵr ffyddlon a fydd aml ei fendithion: ond Pen 13:11; 20:21; 23:24; ad. 22; 1 Tim 6:9y neb a brysuro i fod yn gyfoethog, ni bydd digerydd.

21Pen 18:5; 24:23Nid da derbyn wyneb: canys Esec 13:19y cyfryw ŵr am damaid o fara a wna gam.

22ad. 20Gŵr drwg ei lygad a brysura i ymgyfoethogi: ond bychan y gŵyr efe y daw tlodi arno.

23Pen 27:6Y neb a geryddo ddyn, a gaiff yn y diwedd fwy o ffafr na’r neb a draetho weniaith â’i dafod.

24Y neb a ysbeilio ei dad neu ei fam, ac a ddywed, Nid yw hyn gamwedd, Pen 18:9 sydd gymar i ddinistriwr.

25Pen 13:10Gŵr uchel ei feddwl a ennyn gynnen: ond y neb a ymddiriedo yn yr Arglwydd, a wneir yn fras.

26Y neb a ymddiriedo yn ei galon ei hun, sydd ffôl: ond y neb a rodio yn bwyllog, a achubir.

27Deut 15:7, &c; Pen 19:17; 22:9Y neb a roddo i’r tlawd, ni bydd angen arno: ond y neb a guddio ei lygaid, a gaiff lawer o felltithion.

28ad. 12; Pen 29:2Pan ddyrchafer yr annuwiol, Job 24:4dynion a ymguddia: ond wedi darfod amdanynt, yr amlheir y cyfiawn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help