Josua 5 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Arswyd y Canaaneaid. 2 Josua yn adnewyddu yr enwaediad. 10 Cadw y Pasg yn Gilgal. 12 Y manna yn darfod. 13 Angel yn ymddangos i Josua.

1Pan llymion, ac enwaeda ar feibion Israel drachefn yr ail waith.

3A Josua a wnaeth iddo gyllyll llymion, ac a enwaedodd ar feibion Israel, ym mryn y blaengrwyn.

4A dyma’r achos a wnaeth i Josua enwaedu: Yr holl bobl, sef y gwrywiaid y rhai a ddaethent o’r Aifft, yr holl ryfelwyr, a fuasent feirw yn yr anialwch ar y ffordd, wedi eu dyfod allan o’r Aifft.

5Canys yr holl bobl a’r a ddaethent allan, oedd enwaededig; ond y bobl oll y rhai a anesid yn yr anialwch, ar y ffordd, wedi eu dyfod hwy allan o’r Aifft, nid enwaedasent arnynt.

6Canys deugain mlynedd y rhodiasai meibion Israel yn yr anialwch, nes darfod yr holl bobl o’r rhyfelwyr a ddaethent o’r Aifft, y rhai ni wrandawsent ar lef yr Arglwydd: Gilgal, hyd y dydd heddiw.

10A meibion Israel a wersyllasant yn Gilgal: a hwy a gynaliasant y Pasg, Exod 12:6ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis, brynhawn, yn rhosydd Jericho.

11A hwy a fwytasant o hen ŷd y wlad, drannoeth wedi’r Pasg, fara croyw, a chras ŷd, o fewn corff y dydd hwnnw.

12 Exod 16:35 A’r manna a beidiodd drannoeth wedi iddynt fwyta o hen ŷd y wlad; a manna ni chafodd meibion Israel mwyach, eithr bwytasant o gynnyrch gwlad y Canaaneaid y flwyddyn honno.

13A phan oedd Josua wrth Jericho, yna efe a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele Exod 23:23; Sech 1:8ŵr yn sefyll gyferbyn ag ef, â’i gleddyf noeth yn ei law. A Josua a aeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Ai gyda ni yr ydwyt ti, ai gyda’n gwrthwynebwyr?

14Dywedodd yntau, Nage; eithr Edrych Exod 23:20; Dan 10:13, 21; 12:1; Dat 12:7; 19:11, 14yn dywysog llu yr Arglwydd yn awr y deuthum. A Josua a syrthiodd i lawr ar ei wyneb, ac a addolodd; ac a ddywedodd wrtho ef, Beth y mae fy Arglwydd yn ei ddywedyd wrth ei was?

15A thywysog llu yr Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Exod 3:5; Act 7:33Datod dy esgidiau oddi am dy draed: canys y lle yr wyt ti yn sefyll arno, sydd sanctaidd. A Josua a wnaeth felly.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help