Seffaneia 1 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

Diogel farn Duw ar Jwda am amryw bechodau.

1Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Seffaneia mab Cusi, fab Gedaleia, fab Amareia, fab Heseceia, yn amser Joseia mab Amon brenin Jwda.

2Gan ddistrywio y distrywiaf bob dim oddi ar wyneb y ddaear, medd yr Arglwydd.

3i’r Arglwydd, a hefyd gwahoddodd ei wahoddedigion.

8A bydd, ar ddydd aberth yr Arglwydd, i mi ymweled Jer 39:6â’r tywysogion, ac â phlant y brenin, ac â phawb a wisgant wisgoedd dieithr.

9Ymwelaf hefyd â phawb a neidiant ar y rhiniog y dydd hwnnw, y sawl a lanwant dai eu meistr â thrais ac â thwyll.

10A’r dydd hwnnw, medd yr Arglwydd, y bydd llais gwaedd o borth y pysgod, ac udfa o’r ail, a drylliad mawr o’r bryniau.

11Udwch, breswylwyr Machtes: canys torrwyd ymaith yr holl bobl o farchnadyddion; a holl gludwyr arian a dorrwyd ymaith.

12A’r amser hwnnw y chwiliaf Jerwsalem â llusernau, ac yr ymwelaf â’r dynion sydd Jer 48:11yn ceulo ar eu sorod; y rhai a ddywedant yn eu calon, Ni wna yr Arglwydd dda, ac ni wna ddrwg.

13Am hynny eu cyfoeth a â yn ysbail, a’u teiau yn anghyfannedd: Deut 28:30, 39; Amos 5:11adeiladant hefyd dai, ond ni phreswyliant ynddynt; a phlannant winllannoedd, ond nid yfant o’r gwin.

14Agos yw mawr ddydd yr Arglwydd, agos a phrysur iawn, sef llais dydd yr Arglwydd: yno y bloeddia y dewr yn chwerw.

15Jer 30:7; Joel 2:2, 11; Amos 5:18Diwrnod llidiog yw y diwrnod hwnnw, diwrnod trallod a chyfyngdra, diwrnod dinistr ac anghyfanhedd‐dra, diwrnod tywyll a du, diwrnod cymylau a thywyllni.

16Diwrnod utgorn a larwm yn erbyn y dinasoedd caerog, ac yn erbyn y tyrau uchel.

17A mi a gyfyngaf ar ddynion, a hwy a rodiant megis deillion, am bechu ohonynt yn erbyn yr Arglwydd; a’u gwaed a dywelltir fel llwch, a’u cnawd fel tom.

18Diar 11:4; Esec 7:19Nid eu harian na’u haur chwaith a ddichon eu hachub hwynt ar ddiwrnod llid yr Arglwydd; ond â thân ei eiddigedd ef Pen 3:8yr ysir yr holl dir: canys gwna yr Arglwydd ddiben prysur ar holl breswylwyr y ddaear.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help