Mathew 5 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

A.D. 31. —1 Crist yn dechrau ei bregeth ar y mynydd; 3 ac yn dangos pwy sydd ddedwydd, 13 pwy yw halen y ddaear, 14 goleuni y byd, dinas ar fryn, 15 y gannwyll: 17 ei ddyfod ef i gyflawni y gyfraith. 21 Beth yw lladd, 27 a godinebu, 33 a thyngu. 38 Y mae yn annog i ddioddef cam, 43 i garu, ie, ein gelynion, 48 ac i ymegnïo at berffeithrwydd.

1A phan welodd yr Iesu y tyrfaoedd, efe a esgynnodd i’r mynydd: ac wedi iddo eistedd, ei ddisgyblion a ddaethant ato.

2Ac efe a agorodd ei enau, ac a’u dysgodd hwynt, gan ddywedyd,

3gan y rhai gynt, Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, rhoed iddi lythyr ysgar:

32Ond yr ydwyf fi yn dywedyd i chwi, fod Pen 19:9; Luc 16:18; 1 Cor 7:10, 11pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, ond o achos godineb, yn peri iddi wneuthur godineb: a phwy bynnag a briodo’r hon a ysgarwyd, y mae efe yn gwneuthur godineb.

33Trachefn, clywsoch Pen 23:16ddywedyd gan y rhai gynt, Exod 20:7; Lef 19:12; Deut 5:11Na thwng anudon; eithr Deut 23:23tâl dy lwon i’r Arglwydd:

34Ond yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Pen 23:16, 18, 22; Iago 5:12Na thwng ddim: nac i’r nef; canys Esa 66:1gorseddfa Duw ydyw:

35Nac i’r ddaear; canys troedfainc ei draed ydyw: nac i Jerwsalem; canys Salm 48:2dinas y brenin mawr ydyw.

36Ac na thwng i’th ben; am na elli wneuthur un blewyn yn wyn, neu yn ddu.

37Eithr bydded eich ymadrodd chwi, Ie, ie; Nage, nage; oblegid beth bynnag sydd dros ben hyn, o’r drwg y mae.

38Clywsoch ddywedyd, Exod 21:24; Lef 24:20; Deut 19:21Llygad am lygad, a dant am ddant:

39Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Diar 24:29; Luc 6:29; Rhuf 12:17, 19; 1 Cor 6:7; 1 Thess 5:15; 1 Pedr 3:9Na wrthwynebwch ddrwg: ond pwy bynnag a’th drawo ar dy rudd ddeau, tro’r llall iddo hefyd.

40Ac i’r neb a fynno ymgyfreithio â thi, a dwyn dy bais, gad iddo dy gochl hefyd.

41A phwy bynnag Edrych Pen 27:32; Marc 15:21a’th gymhello un filltir, dos gydag ef ddwy.

42Dyro i’r hwn a ofynno gennyt; ac Deut 15:8, 10; Luc 6:35na thro oddi wrth yr hwn sydd yn ewyllysio echwynna gennyt.

43Clywsoch ddywedyd, Lef 19:18Câr dy gymydog, a chasâ dy elyn.

44Eithr yr ydwyf fi yn dywedyd wrthych chwi, Luc 6:27; Rhuf 12:14, 20Cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a’ch melltithiant, gwnewch dda i’r sawl a’ch casânt, a Luc 23:34; Act 7:60; 1 Cor 4:12, 13; 1 Pedr 2:23; 3:9gweddïwch dros y rhai a wnêl niwed i chwi, ac a’ch erlidiant;

45Fel y byddoch blant i’ch Tad yr hwn sydd yn y nefoedd: canys y mae efe yn peri i’w haul godi ar y drwg a’r da, ac yn glawio ar y cyfiawn a’r anghyfiawn.

46Luc 6:32Oblegid os cerwch y sawl a’ch caro, pa wobr sydd i chwi? oni wna’r publicanod hefyd yr un peth?

47Ac os cyferchwch well i’ch brodyr yn unig, pa ragoriaeth yr ydych chwi yn ei wneuthur? onid ydyw’r publicanod hefyd yn gwneuthur felly?

48Byddwch chwi gan hynny yn berffaith, Eff 5:1fel y mae eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd yn berffaith.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help