1Casglodd Moses hefyd holl gynulleidfa meibion Israel, a dywedodd wrthynt, Dyma’r pethau a orchmynnodd yr Arglwydd eu gwneuthur.
2sanctaidd, Saboth gorffwys i’r Arglwydd: llwyr rodder i farwolaeth pwy bynnag a wnelo waith arno.
3Y tabernacl, ei babell‐len a’i do, ei fachau a’i ystyllod, ei farrau, ei golofnau, a’i forteisiau,
12Yr arch, a’i throsolion, y drugareddfa, a’r wahanlen, yr hon a’i gorchuddia,
13Y bwrdd, a’i drosolion, a’i holl lestri, a’r bara dangos,
14A chanhwyllbren y goleuni, a’i offer, a’i lampau, ac olew y goleuni,
15Pen 30:1Ac allor yr arogl‐darth, a’i throsolion, ac olew yr eneiniad, a’r arogl‐darth peraidd, a chaeadlen y drws i fyned i’r tabernacl,
16Pen 27:1Allor y poethoffrwm a’i halch bres, ei throsolion, a’i holl lestri, y noe a’i throed,
17Llenni’r cynteddfa, ei golofnau, a’i forteisiau, caeadlen porth y cynteddfa,
18Hoelion y tabernacl, a hoelion y cynteddfa, a’u rhaffau hwynt,
19A gwisgoedd y weinidogaeth i weini yn y cysegr, sanctaidd wisgoedd Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion ef, i offeiriadu ynddynt.
20A holl gynulleidfa meibion Israel a aethant allan oddi gerbron Moses.
21A phob un yr hwn y cynhyrfodd ei galon ef, a phob un yr hwn y gwnaeth ei ysbryd ef yn ewyllysgar, a ddaethant, ac a ddygasant offrwm i’r Arglwydd, tuag at waith pabell y cyfarfod, a thuag at ei holl wasanaeth hi, a thuag at y gwisgoedd sanctaidd.
22A daethant yn wŷr ac yn wragedd; pob un a’r a oedd ewyllysgar ei galon a ddygasant freichledau, a chlustlysau, a modrwyau, a chadwynau, pob math ar dlysau aur; a phob gŵr a’r a offrymodd offrwm, a offrymodd aur i’r Arglwydd.
23A phob un a’r y caed gydag ef sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main, a blew geifr, a chrwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a chrwyn daearfoch, a’u dygasant.
24Pob un a’r a offrymodd offrwm o arian a phres, a ddygasant offrwm i’r Arglwydd: a phob un a’r y caed gydag ef goed Sittim i ddim o waith y gwasanaeth a’i dygasant.
25A phob gwraig ddoeth o galon a nyddodd â’i dwylo; ac a ddygasant yr edafedd sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main.
26A’r holl wragedd y rhai y cynhyrfodd eu calonnau hwynt mewn cyfarwyddyd, a nyddasant flew geifr.
27A’r penaethiaid a ddygasant feini onics, a meini i’w gosod ar yr effod, ac ar y ddwyfronneg;
28A Pen 30:23llysiau, ac olew i’r goleuni, ac i olew yr ennaint, ac i’r arogl‐darth peraidd.
29Holl blant Israel, yn wŷr ac yn wragedd, y rhai a glywent ar eu calon offrymu tuag at yr holl waith a orchmynasai’r Arglwydd trwy law Moses ei wneuthur, a ddygasant i’r Arglwydd offrwm ewyllysgar.
30A dywedodd Moses wrth feibion Israel, Gwelwch, Pen 31:2galwodd yr Arglwydd erbyn ei enw, Besaleel, fab Uri, fab Hur, o lwyth Jwda:
31Ac a’i llanwodd ef ag ysbryd Duw, mewn cyfarwyddyd, mewn deall, ac mewn gwybodaeth, ac mewn pob gwaith;
32I ddychmygu cywreinrwydd, i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn pres,
33Ac mewn cyfarwyddyd i osod meini, ac mewn saernïaeth pren, i weithio ym mhob gwaith cywraint.
34Ac efe a roddodd yn ei galon ef ddysgu eraill; efe, ac Aholïab, mab Achisamach, o lwyth Dan.
35Efe a’u llanwodd hwynt â doethineb calon, i wneuthur pob gwaith saer a chywreinwaith, a gwaith edau a nodwydd, mewn sidan glas, ac mewn porffor, ac mewn ysgarlad, ac mewn lliain main, ac i wau, gan wneuthur pob gwaith, a dychmygu cywreinrwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.