1A Moses a esgynnodd o rosydd Moab, i Pisga, yr hwn sydd ar gyfer Jericho: a’r Arglwydd a ddangosodd iddo Pen 3:27holl wlad Gilead, hyd Dan,
2A holl Nafftali, a thir Effraim a Manasse, a holl dir Jwda, hyd y môr eithaf,
3Y deau hefyd, a gwastadedd dyffryn Jericho, a Barn 1:16; 2 Cron 28:15dinas y palmwydd, hyd Soar.
4A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Gen 12:7; 13:15; 15:18; 26:3; 28:13Dyma’r tir a fynegais i Abraham, i Isaac, ac i Jacob, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddaf ef; perais i ti ei weled â’th lygaid, ond nid ei di drosodd yno.
5A Moses gwas yr Arglwydd a fu farw yno, yn nhir Moab, yn ôl gair yr Arglwydd.
6Ac efe a’i claddodd ef mewn glyn yn nhir Moab, gyferbyn â Beth‐peor: ac Edrych Jwdas 9nid edwyn neb ei fedd ef hyd y dydd hwn.
7A Moses ydoedd fab ugain mlwydd a chant pan fu efe farw: Edrych Jos 14:10, 11ni thywyllasai ei lygad, ac ni chiliasai ei ireidd‐dra ef.
8A meibion Israel a wylasant am Moses yn rhosydd Moab Edrych Gen 50:3, 10; Num 20:29ddeng niwrnod ar hugain: a chyflawnwyd dyddiau wylofain galar am Moses.
9A Josua mab Nun oedd gyflawn o ysbryd doethineb; oherwydd Num 27:18Moses a roddasai ei ddwylo arno: a meibion Israel a wrandawsant arno, ac a wnaethant fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
10Ac ni chododd proffwyd eto yn Israel megis Moses, Num 12:6, 8yr hwn a adnabu yr Arglwydd wyneb yn wyneb;
11Ym mhob rhyw Pen 4:34; 7:19arwyddion a rhyfeddodau, y rhai yr anfonodd yr Arglwydd ef i’w gwneuthur yn nhir yr Aifft, ar Pharo, ac ar ei holl weision, ac ar ei holl dir ef,
12Ac yn yr holl law gadarn, ac yn yr holl ofn mawr, y rhai a wnaeth Moses yng ngolwg holl Israel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
