1O Arglwydd Dduw y Deut 32:35; Nahum 1:2dial, O Dduw y dial, Salm 80:1ymddisgleiria.
2 Salm 7:6 Ymddyrcha, Gen 18:25Farnwr y byd: tâl eu gwobr i’r beilchion.
3Pa hyd, Arglwydd, y caiff yr annuwiolion, pa hyd y caiff yr annuwiol orfoleddu?
4 Pa hyd Salm 31:18; Jwdas 15y siaradant ac y dywedant yn galed? yr ymfawryga holl weithredwyr anwiredd?
5Dy bobl, Arglwydd, a ddrylliant; a’th etifeddiaeth a gystuddiant.
6Y weddw a’r dieithr a laddant, a’r amddifad a ddieneidiant.
7 Salm 10:11, 13; 59:7 Dywedant hefyd, Ni wêl yr Arglwydd; ac nid ystyria Duw Jacob hyn.
8 Salm 73:22; 92:6 Ystyriwch, chwi rai annoeth ymysg y bobl: ac ynfydion, pa bryd y deellwch?
9 Exod 4:11; Diar 20:12 Oni chlyw yr hwn a blannodd y glust? oni wêl yr hwn a luniodd y llygad?
10Oni cherydda yr hwn a gosba y cenhedloedd? oni ŵyr yr hwn sydd yn dysgu gwybodaeth i ddyn?
11 1 Cor 3:20 Gŵyr yr Arglwydd feddyliau dyn, mai gwagedd ydynt.
12 1 Cor 11:32; Heb 12:5 &c Gwyn ei fyd y gŵr a geryddi di, O Arglwydd, ac a ddysgi yn dy gyfraith:
13I beri iddo lonydd oddi wrth ddyddiau drygfyd, hyd oni chloddier ffos i’r annuwiol.
14 1 Sam 12:22; Rhuf 11:1, 2 Canys ni ad yr Arglwydd ei bobl, ac ni wrthyd efe ei etifeddiaeth.
15Eithr barn a ddychwel at gyfiawnder: a’r holl rai uniawn o galon a ânt ar ei ôl.
16Pwy a gyfyd gyda mi yn erbyn y rhai drygionus? pwy a saif gyda mi yn erbyn gweithredwyr anwiredd?
17Oni buasai yr Arglwydd yn gymorth i mi, braidd na thrigasai fy enaid mewn distawrwydd.
18Pan ddywedais, Llithrodd fy nhroed: dy drugaredd di, O Arglwydd, a’m cynhaliodd.
19Yn amlder fy meddyliau o’m mewn, dy ddiddanwch di a lawenycha fy enaid.
20A Amos 6:3fydd cydymdeithas i ti â gorseddfainc anwiredd, yr hon Salm 58:2; Esa 10:1a lunia anwiredd yn lle cyfraith?
21Yn finteioedd y deuant yn erbyn enaid y cyfiawn, a gwaed gwirion a farnant yn euog.
22Eithr yr Arglwydd sydd yn amddiffynfa i mi: a’m Duw yw craig fy nodded.
23Ac Salm 7:16efe a dâl iddynt eu hanwiredd, ac a’u tyr ymaith yn eu drygioni: yr Arglwydd ein Duw a’u tyr hwynt ymaith.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.