1A mi yn ewyllysio iacháu Israel, datguddiwyd anwiredd Effraim, a drygioni Samaria: canys gwnânt ffalster; a’r lleidr a ddaw i mewn, a mintai o ysbeilwyr a anrheithia oddi allan.
2Ac nid ydynt yn meddwl yn eu calonnau fy mod i yn cofio eu holl ddrygioni hwynt: weithian eu gweithredoedd eu hun a’u hamgylchynodd: y maent gerbron fy wyneb.
3Llawenhânt y brenin â’u drygioni, a’r tywysogion â’u celwyddau.
4Pawb ohonynt sydd yn torri priodas, fel ffwrn wedi ei thwymo gan y pobydd, yr hwn a baid â chodi wedi iddo dylino y toes, hyd oni byddo wedi ei lefeinio.
5Yn niwrnod ein brenin y tywysogion a’i gwnaethant yn glaf â chostrelau gwin: estynnodd ei law gyda gwatwarwyr.
6Fel yr oeddynt yn cynllwyn, darparasant eu calon fel ffwrn: eu pobydd a gwsg ar hyd y nos; y bore y llysg fel fflam dân.
7Pawb ohonynt a wresogant fel y ffwrn, ac a ysant eu barnwyr: eu holl frenhinoedd a gwympasant, dinistr arnynt; oherwydd gwnaethant gamwedd i’m herbyn: er i mi eu gwared hwynt, eto hwy a ddywedasant gelwydd arnaf fi.
14Ac rwymo a nerthu eu breichiau hwynt, eto meddyliasant ddrwg i mi.
16Dychwelasant, nid at y Goruchaf: y maent Salm 78:57fel bwa twyllodrus: eu tywysogion a syrthiant gan y cleddyf am Salm 73:9gynddaredd eu tafod. Dyma eu gwatwar hwynt yng ngwlad yr Aifft.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
