Actau’r Apostolion 10 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

A.D. 41. —1 Cornelius, gŵr defosiynol, 5 wrth orchymyn angel, yn danfon i gyrchu Pedr: 11 yntau, trwy weledigaeth, 15, 20 yn cael ei ddysgu na ddiystyrai mo’r Cenhedloedd. 34 Ac efe yn pregethu Crist i Cornelius, a’r rhai oedd gydag ef, 44 yr Ysbryd Glân yn disgyn arnynt; 48 a’u bedyddio hwy.

1Yr oedd rhyw ŵr yn Cesarea, a’i enw Cornelius, canwriad o’r fyddin a elwid yr Italaidd;

2Gŵr defosiynol, ac yn ofni Duw, ynghyd â’i holl dŷ, ac yn gwneuthur llawer o elusennau i’r bobl, ac yn gweddïo ar Dduw yn wastadol.

3Efe a welodd mewn gweledigaeth yn eglur, ynghylch y nawfed awr o’r dydd, angel Duw yn dyfod i mewn ato, ac yn dywedyd wrtho, Cornelius.

4Ac wedi iddo graffu arno, a myned yn ofnus, efe a ddywedodd, Beth sydd, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd wrtho, Dy weddïau di a’th elusennau a ddyrchafasant yn goffadwriaeth gerbron Duw.

5Ac yn awr anfon wŷr i Jopa, a gyr am Simon, yr hwn a gyfenwir Pedr:

6Y mae efe yn lletya gydag un Simon, barcer; tŷ’r hwn sydd wrth y môr: efe a ddywed i ti pa beth sydd raid i ti ei wneuthur.

7A phan ymadawodd yr angel oedd yn ymddiddan â Chornelius, efe a alwodd ar ddau o dylwyth ei dŷ, a milwr defosiynol o’r rhai oedd yn aros gydag ef:

8Ac wedi iddo fynegi iddynt y cwbl, efe a’u hanfonodd hwynt i Jopa.

9A thrannoeth, fel yr oeddynt hwy yn ymdeithio, ac yn nesáu at y ddinas, gair a fu yn holl Jwdea, Luc 4:14gan ddechrau o Galilea, wedi’r bedydd a bregethodd Ioan:

38Y modd yr eneiniodd Duw Iesu o Nasareth â’r Ysbryd Glân, ac â nerth; yr hwn a gerddodd o amgylch gan wneuthur daioni, ac iacháu pawb a’r oedd wedi eu gorthrymu gan ddiafol: oblegid yr oedd Duw gydag ef.

39A ninnau ydym dystion o’r pethau oll a wnaeth efe yng ngwlad yr Iddewon, ac yn Jerwsalem; yr hwn a laddasant, ac a groeshoeliasant ar bren:

40Pen 2:24Hwn a gyfododd Duw y trydydd dydd, ac a’i rhoddes ef i’w wneuthur yn amlwg;

41Nid i’r bobl oll, eithr i’r tystion etholedig o’r blaen gan Dduw, sef i ni, y rhai a fwytasom ac a yfasom gydag ef wedi ei atgyfodi ef o feirw.

42Ac Mat 28:19; Pen 1:8efe a orchmynnodd i ni bregethu i’r bobl, a thystiolaethu, mai Ioan 5:22, 27; Pen 17:31efe yw’r hwn a ordeiniwyd gan Dduw Rhuf 14:9, 10; 2 Tim 4:1; 1 Pedr 4:5yn Farnwr byw a meirw.

43Jer 31:34; Micha 7:18; Pen 26:22I hwn y mae’r holl broffwydi yn dwyn tystiolaeth, y derbyn pawb a gredo ynddo ef faddeuant pechodau trwy ei enw ef.

44A Phedr eto yn llefaru’r geiriau hyn, syrthiodd Pen 4:31; 8:15, 16yr Ysbryd Glân ar bawb a oedd yn clywed y gair.

45A’r rhai o’r enwaediad a oeddynt yn credu, cynifer ag a ddaethent gyda Phedr, a synasant, am dywallt dawn yr Ysbryd Glân ar y Cenhedloedd hefyd.

46Canys yr oeddynt yn eu clywed hwy yn llefaru â thafodau, ac yn mawrygu Duw. Yna yr atebodd Pedr,

47A all neb luddias dwfr, fel na fedyddier y rhai hyn, y rhai a dderbyniasant yr Ysbryd Glân Pen 15:8fel ninnau?

481 Cor 1:17Ac efe a orchmynnodd eu bedyddio hwynt Pen 8:16yn enw yr Arglwydd. Yna y deisyfasant arno aros dros ennyd o ddyddiau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help