Joel 1 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Joel yn datgan amryw farnedigaethau Duw; ac yn annog i ddal arnynt, 8 ac i alaru: 14 yn gosod ympryd i gwynfan.

1Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Joel mab Pethuel.

2Gwrandewch hyn, chwi henuriaid; a rhoddwch glust, holl drigolion y wlad: a fu hyn yn eich dyddiau, neu yn nyddiau eich tadau?

3Mynegwch hyn i’ch plant, a’ch plant i’w plant hwythau, a’u plant hwythau i genhedlaeth arall.

4Gweddill y lindys a fwytaodd y ceiliog rhedyn, a gweddill y ceiliog rhedyn a ddifaodd pryf y rhwd, a gweddill pryf y rhwd a ysodd y locust.

5Deffrowch, feddwyr, ac wylwch; ac udwch, holl yfwyr gwin, am y gwin newydd; canys torrwyd ef oddi wrth eich min.

6Oherwydd a ddirisglodd: gan ddinoethi dinoethodd hi, a thaflodd hi ymaith: ei changau a wynasant.

8Uda fel gwyry wedi ymwregysu mewn sachliain am briod ei hieuenctid.

9Torrwyd oddi wrth dŷ yr Arglwydd sychodd y gwin newydd, llesgaodd yr olew.

11Cywilyddiwch, y llafurwyr; udwch, y gwinwyddwyr, am y gwenith, ac am yr haidd: canys darfu am gynhaeaf y maes.

12Gwywodd y winwydden, llesgaodd y ffigysbren, y pren pomgranad, y balmwydden hefyd, a’r afallen, a holl brennau y maes, a wywasant; am gymanfa, cesglwch yr henuriaid, a holl drigolion y wlad, i dŷ yr Arglwydd eich Duw, a gwaeddwch ar yr Arglwydd;

15ein llygaid ni oddi wrth dŷ ein Duw, y bwyd, yr hadau dan eu priddellau, yr ysguboriau a anrheithiwyd, yr ydlannau a fwriwyd i lawr; canys yr ŷd a wywodd.

18O o’r griddfan y mae yr anifeiliaid! y mae yn gyfyng ar y minteioedd gwartheg, am nad oes borfa iddynt; y diadellau defaid hefyd a anrheithiwyd.

19Arnat ti, Arglwydd, y llefaf; canys borfeydd yr anialwch, y fflam a oddeithiodd holl brennau y maes.

20Anifeiliaid y maes hefyd sydd Salm 104:21yn brefu arnat; canys sychodd y ffrydiau dwfr, a’r tân a ysodd borfeydd yr anialwch.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help