Genesis 16 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Sarai, yn amhlantadwy, yn rhoddi Agar i Abram. 6 Agar, wedi ei chystuddio am ddiystyru ei meistres, yn rhedeg i ffordd. 9 Angel yn ei danfon hi yn ei hôl i’w darostwng ei hun, 11 ac yn dywedyd iddi am ei mab. 15 Genedigaeth Ismael.

1Sarai hefyd, gwraig Abram, ni phlantasai iddo; ac yr ydoedd iddi forwyn o Eifftes, a’i henw y ceir i mi blant ohoni hi: ac Abram a wrandawodd ar lais Sarai.

3A Sarai, gwraig Abram, a gymerodd ei morwyn Agar yr Eifftes, wedi trigo o Abram ddeng mlynedd yn nhir Canaan, a hi a’i rhoddes i Abram ei gŵr yn wraig iddo.

4Ac efe a aeth i mewn at Agar, a hi a feichiogodd: a phan welodd hithau feichiogi ohoni, yr oedd ei meistres yn wael yn ei golwg hi.

5Yna y dywedodd Sarai wrth Abram, Bydded fy ngham i arnat ti: mi a roddais fy morwyn i’th fynwes, a hithau a welodd feichiogi ohoni, a gwael ydwyf yn ei golwg hi: barned yr Arglwydd rhyngof fi a thi.

6Ac Abram a ddywedodd wrth Sarai, Wele dy forwyn yn dy law di: gwna iddi yr hyn a fyddo da yn dy olwg dy hun: yna Sarai a’i cystuddiodd hi, a hithau a ffodd rhagddi hi.

7Ac angel yr Arglwydd a’i cafodd hi wrth ffynnon ddwfr, yn yr anialwch, wrth y ffynnon yn ffordd Ismael: canys yr Arglwydd a glybu dy gystudd di.

12Ac efe a fydd ddyn gwyllt, a’i law yn erbyn pawb, a llaw pawb yn ei erbyn yntau; Beer‐lahai‐roi: wele, rhwng Cades a Bered y mae hi.

15Ac Gal 4:22Agar a ymddûg fab i Abram: ac Abram a alwodd enw ei fab a ymddygasai Agar, Ismael.

16Ac Abram oedd fab pedwar ugain mlwydd a chwech o flynyddoedd, pan ymddûg Agar Ismael i Abram.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help