1Pechod Jwda a ysgrifennwyd â dy hunan, heb dy etifeddiaeth a roddais i ti; a mi a wnaf i ti wasanaethu dy elynion mewn tir nid adwaenost: sychder ni ofala, ac ni phaid â ffrwytho.
9Y galon sydd fwy ei thwyll na dim, a drwg ddiobaith ydyw; pwy a’i hedwyn?
10Myfi yr Arglwydd eistedd, ac heb ddeor, yw yr hwn a helio gyfoeth yn annheilwng: Salm 55:23yn hanner ei ddyddiau y gedy hwynt, ac yn ei ddiwedd ynfyd fydd.
12Gorsedd ogoneddus ddyrchafedig o’r dechreuad, yw lle ein cysegr ni.
13O Arglwydd, gobaith Israel, Salm 73:27; Esa 1:28y rhai oll a’th wrthodant a waradwyddir, ysgrifennir yn y ddaear y rhai a giliant oddi wrthyf, am iddynt adael yr Arglwydd, Pen 2:13ffynnon y dyfroedd byw.
14Iachâ fi, O Arglwydd, a mi a iacheir; achub fi, a mi a achubir: canys Deut 10:21tydi yw fy moliant.
15Wele hwynt yn dywedyd wrthyf, Esa 5:19; Amos 5:18; 2 Pedr 3:4Pa le y mae gair yr Arglwydd? deued bellach.
16Ond myfi Pen 1:4 &cni phrysurais rhag bod yn fugail ar dy ôl di: ac ni ddymunais y dydd blin, ti a’i gwyddost: yr oedd yr hyn a ddaeth o’m gwefusau yn uniawn ger dy fron di.
17Na fydd yn ddychryn i mi; Pen 16:19ti yw fy ngobaith yn nydd y drygfyd.
18Salm 35:4; 40:14Gwaradwydder fy erlidwyr, ac na’m gwaradwydder i; brawycher hwynt, ac na’m brawycher i: dwg arnynt ddydd drwg, a Pen 11:20dryllia hwynt â drylliad dauddyblyg.
19Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Cerdda, a saf ym mhorth meibion y bobl, trwy yr hwn yr â brenhinoedd Jwda i mewn, a thrwy yr hwn y deuant allan, ac yn holl byrth Jerwsalem;
20A dywed wrthynt, Gwrandewch air yr Arglwydd, brenhinoedd Jwda, a holl Jwda, a holl breswylwyr Jerwsalem, y rhai a ddeuwch trwy y pyrth hyn:
21Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Neh 13:19Disgwyliwch ar eich eneidiau, ac na ddygwch faich ar y dydd Saboth, ac na ddygwch ef i mewn trwy byrth Jerwsalem;
22Ac na ddygwch faich allan o’ch tai ar y dydd Saboth, ac na wnewch ddim gwaith; eithr sancteiddiwch y dydd Saboth, fel Exod 20:8; 23:12; 31:13; Esec 20:12y gorchmynnais i’ch tadau.
23Pen 11:10Ond ni wrandawsant, ac ni ogwyddasant eu clust; eithr caledasant eu gwarrau rhag gwrando, a rhag derbyn addysg.
24Er hynny os dyfal wrandewch arnaf, medd yr Arglwydd, heb ddwyn baich trwy byrth y ddinas hon ar y dydd Saboth, ond sancteiddio y dydd Saboth, heb wneuthur dim gwaith arno:
25Pen 22:4Yna y daw trwy byrth y ddinas hon, frenhinoedd a thywysogion yn eistedd ar orsedd Dafydd, yn marchogaeth mewn cerbydau, ac ar feirch, hwy a’u tywysogion, gwŷr Jwda, a phreswylwyr Jerwsalem; a’r ddinas hon a gyfanheddir byth.
26Ac o ddinasoedd Jwda, ac o Pen 32:44amgylchoedd Jerwsalem, ac o wlad Benjamin, ac o’r gwastadedd, ac o’r mynydd, ac o’r deau, y daw rhai yn dwyn poethoffrymau, ac aberthau, a bwyd‐offrymau, a thus, ac yn dwyn aberthau moliant i dŷ yr Arglwydd.
27Ond os chwi ni wrendy arnaf, i sancteiddio y dydd Saboth, heb ddwyn baich, wrth ddyfod i byrth Jerwsalem, ar y dydd Saboth: yna Pen 49:27; Amos 1:4, 7, 10, 12; 2:2, 5mi a gyneuaf dân yn ei phyrth hi, ac efe a ysa balasau Jerwsalem, ac nis diffoddir.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.