2 Samuel 6 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Dafydd yn cyrchu yr arch o Ciriath‐jearim ar fen newydd. 6 Taro Ussa yn Peres‐Ussa. 11 Duw yn bendithio Obed‐Edom o achos yr arch. 12 Dafydd yn dwyn yr arch i Seion gydag aberthau, ac yn dawnsio o’i blaen hi: a Michal yn ei ddirmygu ef am hynny. 17 Efe yn gosod yr arch mewn pabell, gyda llawenydd mawr a gwledda. 20 Michal, am geryddu Dafydd am ei lawenydd duwiol, yn amhlantadwy hyd farwolaeth.

1A chasglodd Dafydd eto yr holl etholedigion yn Israel, sef deng mil ar hugain.

2A Baale Jwda, i ddwyn i fyny oddi yno arch Duw; enw yr hon a elwir ar enw Arglwydd y lluoedd, osodasant arch Duw Gibea: Ussa hefyd ac Ahïo, meibion Abinadab, oedd yn gyrru y fen newydd.

4A hwy a’i dygasant hi o dŷ Abinadab yn Gibea, gydag arch Duw; ac Ahïo oedd yn myned o flaen yr arch.

5Dafydd hefyd a holl dŷ Israel oedd yn chwarae gerbron yr Arglwydd, â phob offer o goed ffynidwydd, sef â thelynau, ac â nablau, ac â thympanau, ac ag utgyrn, ac â symbalau.

6A phan ddaethant i lawr dyrnu Nachon, Ussa oedd yn ei hysgwyd.

7A digofaint yr Arglwydd a lidiodd wrth Ussa: a Duw yr amryfusedd hyn; ac efe a fu farw yno wrth arch Duw.

8A bu ddrwg gan Dafydd, am i’r Arglwydd rwygo rhwygiad ar Ussa: ac efe a alwodd y lle hwnnw Peres‐ussa, hyd y dydd hwn.

9A osodasai Dafydd iddi. A Dafydd a offrymodd boethoffrymau ac offrymau hedd gerbron yr Arglwydd.

18Ac wedi gorffen o Dafydd offrymu poethoffrwm ac offrymau hedd, 1 Cron 16:2efe a fendithiodd y bobl yn enw Arglwydd y lluoedd.

19Ac efe a rannodd i’r holl bobl, sef i holl dyrfa Israel, yn ŵr ac yn wraig, i bob un deisen o fara, ac un dryll o gig, ac un gostrelaid o win. Felly yr aeth yr holl bobl bawb i’w dŷ ei hun.

20Yna y dychwelodd Dafydd i fendigo ei dŷ: a Michal merch Saul a ddaeth i gyfarfod Dafydd; ac a ddywedodd, O mor ogoneddus oedd brenin Israel heddiw, yr hwn a ymddiosgodd heddiw yng ngŵydd llawforynion ei weision, fel yr ymddiosgai un o’r ynfydion gan ymddiosg.

21A dywedodd Dafydd wrth Michal, Gerbron yr Arglwydd, 1 Sam 13:14yr hwn a’m dewisodd i o flaen dy dad di, ac o flaen ei holl dŷ ef, gan orchymyn i mi fod yn flaenor ar bobl yr Arglwydd, ar Israel, y chwaraeais: a mi a chwaraeaf gerbron yr Arglwydd.

22Byddaf eto waelach na hyn, a byddaf ddirmygus yn fy ngolwg fy hun: a chyda’r llawforynion, am y rhai y dywedaist wrthyf, y’m gogoneddir.

23Am hynny i Michal merch Saul ni bu etifedd Edrych 1 Sam 15:35; Esa 22:14; Mat 1:25hyd ddydd ei marwolaeth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help