Exodus 4 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Troi gwialen Moses yn sarff. 6 Ei law ef yn gwahanglwyfo. 10 Efe yn anewyllysgar i’w anfon. 14 Apwyntio Aaron i’w helpu ef. 18 Moses yn ymadael oddi wrth Jethro. 21 Cenadwriaeth Duw at Pharo. 24 Seffora yn enwaedu ar ei mab. 27 Danfon Aaron i gyfarfod â Moses. 31 Y bobl yn credu iddynt.

1A Moses a atebodd, ac a ddywedodd, Eto, wele, ni chredant i mi, ac ni wrandawant ar fy llais; ond dywedant, Nid ymddangosodd yr Arglwydd i ti.

2A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Beth sydd yn dy law? Dywedodd yntau, Gwialen.

3Ac efe a ddywedodd, Tafl hi ar y ddaear. Ac efe a’i taflodd hi ar y ddaear; a hi a aeth yn sarff: a Moses a giliodd rhagddi.

4Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Estyn dy law, ac ymafael yn ei llosgwrn hi. (Ac efe a estynnodd ei law, ac a ymaflodd ynddi; a hi a aeth yn wialen yn ei law ef:)

5Fel y credant ymddangos i ti o Arglwydd Dduw eu tadau, Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob.

6A dywedodd yr Arglwydd wrtho drachefn, Dod yn awr dy law yn dy fynwes. Ac efe a roddodd ei law yn ei fynwes: a phan dynnodd efe hi allan, wele ei law ef yn wahanglwyfol a bydd ymadroddus, na chyn hyn, nac er pan leferaist wrth dy was; eithr ddanfonych.

14Ac enynnodd digofaint yr Arglwydd yn erbyn Moses; ac efe a ddywedodd, Onid dy frawd yw Aaron y Lefiad? mi a wn y medr efe lefaru yn groyw: ac wele efe yn dyfod allan i’th gyfarfod; a phan y’th welo, efe a lawenycha yn ei galon.

15Jethro ei chwegrwn, ac a ddywedodd wrtho, Gad i mi fyned, atolwg, a dychwelyd at fy mrodyr sydd yn yr Aifft, a gweled a ydynt eto yn fyw. A dywedodd Jethro wrth Moses, Dos mewn heddwch.

19A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses ym Midian, Dos, dychwel i’r Aifft; oherwydd Jos 5:2, 3gyllell lem, ac a dorrodd ddienwaediad ei mab, ac a’i bwriodd i gyffwrdd â’i draed ef; ac a ddywedodd, Diau dy fod yn briod gwaedlyd i mi.

26A’r Arglwydd a beidiodd ag ef: yna y dywedodd hi, Priod gwaedlyd wyt, oblegid yr enwaediad.

27A dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, Dos i gyfarfod â Moses i’r anialwch. Ac efe a aeth, ac a gyfarfu ag ef ym Pen 3:1mynydd Duw, ac a’i cusanodd ef.

28A Moses a fynegodd i Aaron holl eiriau yr Arglwydd, yr hwn a’i hanfonasai ef, a’r arwyddion a orchmynasai efe iddo.

29A Moses ac Aaron a aethant, ac a gynullasant holl henuriaid meibion Israel.

30Ac Aaron a draethodd yr holl eiriau a lefarasai yr Arglwydd wrth Moses, ac a wnaeth yr arwyddion yng ngolwg y bobl.

31A chredodd y bobl: a phan glywsant ymweled o’r Arglwydd â meibion Israel, ac iddo edrych ar eu gorthrymder, yna Pen 12:27hwy a ymgrymasant, ac a addolasant.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help