1Yn y bumed flwyddyn ar hugain o’n caethgludiad ni, yn nechrau y flwyddyn, ar y degfed dydd o’r mis, yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg wedi arno yr oedd megis adail dinas o du y deau.
3Ac efe a’m dug yno: ac wele ŵr a’i welediad fel gwelediad pres, ac yn ei law linyn llin, a cyfyng oedd i’r ystafelloedd, ac i’w pyst o fewn y porth o amgylch ogylch; ac felly yr oedd i’r bwâu meini: a ffenestri oedd o amgylch ogylch o fewn; ac yr oedd palmwydd ar bob post.
17Ac efe a’m dug i’r cyntedd nesaf allan, ac wele yno ystafelloedd, a phalmant wedi ei wneuthur i’r cyntedd o amgylch ogylch; lle y dringir i ddrws porth y gogledd, yr oedd dau fwrdd; a dau fwrdd ar yr ystlys arall, yr hwn oedd wrth gyntedd y porth.
41Pedwar bwrdd oedd o’r tu yma, a phedwar bwrdd o’r tu acw, ar ystlys y porth; wyth bwrdd, ar y rhai y lladdent eu haberthau.
42A’r pedwar bwrdd i’r poethoffrwm oedd o gerrig nadd, yn un cufydd a hanner o hyd, ac yn un cufydd a hanner o led, ac yn un cufydd o uchder: arnynt hwy hefyd y gosodent yr offer y rhai y lladdent yr offrwm poeth a’r aberth â hwynt.
43Hefyd yr oedd bachau, o un ddyrnfedd, wedi eu paratoi o fewn, o amgylch ogylch: a chig yr offrwm oedd ar y byrddau.
44Ac o’r tu allan i’r porth nesaf i mewn yr oedd ystafelloedd y cantorion o fewn y cyntedd nesaf i mewn, yr hwn oedd ar ystlys porth y gogledd; a’u hwynebau oedd tua’r deau: un oedd ar ystlys porth y dwyrain, â’i wyneb tua’r gogledd.
45Ac efe a ddywedodd wrthyf, Yr ystafell hon, yr hon sydd â’i hwyneb tua’r deau, sydd i’r offeiriaid, Num 3:27, 28, 32, 38ceidwaid 40:45 Neu, ordinhad: Felly ad. 46cadwraeth y tŷ.
46A’r ystafell yr hon sydd â’i hwyneb tua’r gogledd, sydd i’r offeiriaid, Num 18:5; Pen 44:15ceidwaid cadwraeth yr allor: y rhai hyn yw meibion 1 Bren 2:35Sadoc, y rhai ydynt o feibion Lefi, yn nesáu at yr Arglwydd i weini iddo.
47Felly efe a fesurodd y cyntedd, yn gan cufydd o hyd, ac yn gan cufydd o led, yn bedeirongl; a’r allor oedd o flaen y tŷ.
48Ac efe a’m dug i borth y tŷ, ac a fesurodd bob post i’r porth, yn bum cufydd o’r naill du, ac yn bum cufydd o’r tu arall: a lled y porth oedd dri chufydd o’r naill du, a thri chufydd o’r tu arall.
49Y cyntedd oedd ugain cufydd o hyd, ac un cufydd ar ddeg o led: ac efe a’m dug ar hyd y grisiau ar hyd y rhai y dringent iddo: hefyd yr ydoedd colofnau wrth y pyst, un o’r naill du, ac un o’r tu arall.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.