1Yna y daeth Dafydd i Nob at Ahimelech yr offeiriad. Ac Ahimelech a ddychrynodd wrth gyfarfod â Dafydd; ac a ddywedodd wrtho, Paham yr ydwyt ti yn unig, ac heb neb gyda thi?
2A dywedodd Dafydd wrth Ahimelech yr offeiriad, Y brenin a orchmynnodd i mi beth, ac a ddywedodd wrthyf, Na chaed neb wybod dim o’r peth am yr hwn y’th anfonais, ac y gorchmynnais i ti: a’r gweision a gyfarwyddais i i’r lle a’r lle.
3Ac yn awr beth sydd dan dy law? dod i mi bum torth yn fy llaw, neu y peth sydd i’w gael.
4A’r offeiriad a atebodd Dafydd, ac a ddywedodd, Nid oes fara cyffredin dan fy llaw i; eithr y mae ie, petai wedi ei gysegru heddiw yn y llestr.
6Felly yr offeiriad Achis brenin Gath.
11A Salm 56 titlgweision Achis a ddywedasant wrtho ef, Onid hwn yw Dafydd brenin y wlad? onid i hwn y canasant yn y dawnsiau, gan ddywedyd, Pen 18:7; 29:5Saul a laddodd ei filoedd, a Dafydd ei fyrddiwn?
12A Dafydd a osododd y geiriau hynny yn ei galon, ac a ofnodd yn ddirfawr rhag Achis brenin Gath.
13Ac Salm 34 titlefe a newidiodd ei wedd yn eu golwg hwynt; ac a gymerth arno ynfydu rhwng eu dwylo hwynt, ac a gripiodd ddrysau y porth, ac a ollyngodd ei boeryn i lawr ar ei farf.
14Yna y dywedodd Achis wrth ei weision, Wele, gwelwch y gŵr yn gwallgofi; paham y dygasoch ef ataf fi?
15Ai eisiau ynfydion sydd arnaf fi, pan ddygasoch hwn i ynfydu o’m blaen i? a gaiff hwn ddyfod i’m tŷ i?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
