2 Cronicl 5 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Y trysorau cysegredig. 2 Dwyn arch Duw yn barchedig i’r cysegr. 11 Duw, yn ôl ei foliannu, yn dangos arwydd o’i ffafr.

1Felly y gorffennwyd yr holl waith a wnaeth Solomon i dŷ yr Arglwydd; a mae hi hyd y dydd hwn.

10Nid oedd yn yr arch ond y ddwy lech lle y gwnaethai yr Arglwydd gyfamod â meibion Israel, pan ddaethant hwy allan o’r Aifft.

11A phan ddaeth yr offeiriaid o’r cysegr; canys yr holl offeiriaid, y rhai a gafwyd, a ymsancteiddiasent, heb gadw dosbarthiad:

121 Cron 25:1Felly y Lefiaid, y rhai oedd gantorion, hwynt‐hwy oll o Asaff, o Heman, o Jeduthun, â’u meibion hwynt, ac â’u brodyr, wedi eu gwisgo â lliain main, â symbalau, ac â nablau a thelynau, yn sefyll o du dwyrain yr allor, a chyda hwynt chwe ugain o offeiriaid yn utganu mewn utgyrn.

13Ac fel yr oedd yr utganwyr a’r cantorion, megis un, i seinio un sain i glodfori ac i foliannu yr Arglwydd; ac wrth ddyrchafu sain mewn utgyrn, ac mewn symbalau, ac mewn offer cerdd, ac wrth foliannu yr Arglwydd, gan ddywedyd, Salm 136; Edrych 1 Cron 16:34, 41Canys da yw; ac yn dragywydd y mae ei drugaredd ef: yna y llanwyd y tŷ â chwmwl, sef tŷ yr Arglwydd;

14Exod 40:35; Pen 7:2Fel na allai yr offeiriaid sefyll i wasanaethu gan y cwmwl: oherwydd gogoniant yr Arglwydd a lanwasai dŷ Dduw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help