1A Dafydd a gynullodd holl dywysogion Israel, a meddiant y brenin, a’i feibion, gyda’r ystafellyddion, a’r Pen 11:10cedyrn, a phob un grymusol o nerth, i Jerwsalem.
2A chyfododd Dafydd y brenin ar ei draed, ac a ddywedodd, Gwrandewch arnaf fi, fy mrodyr, a’m pobl; 2 Sam 7:2Myfi a feddyliais yn fy nghalon adeiladu tŷ gorffwysfa i arch cyfamod yr Arglwydd, ac i Salm 99:5; 132:7ystôl draed ein Duw ni, a mi a baratoais tuag at adeiladu.
3Ond Duw a ddywedodd wrthyf, 2 Sam 7:5, 13; 1 Bren 5:3; Pen 22:8Nid adeiledi di dŷ i’m henw i, canys rhyfelwr fuost, a gwaed a dywelltaist.
4Er hynny Arglwydd Dduw Israel a’m hetholodd i o holl dŷ fy nhad, i fod yn frenin ar Israel yn dragywydd: canys Gen 49:8; Pen 5:2 Salm 60:7; 78:68Jwda a ddewisodd efe yn llywiawdwr; ac o dŷ Jwda, 1 Sam 16:1tŷ fy nhad i; ac 1 Sam 16:12o feibion fy nhad, efe a fynnai i mi deyrnasu ar holl Israel:
5Pen 23:1Ac o’m holl feibion innau, (canys llawer o feibion a roddes yr Arglwydd i mi,) efe hefyd a ddewisodd Solomon fy mab, i eistedd ar orseddfa brenhiniaeth yr Arglwydd, ar Israel.
6Dywedodd hefyd wrthyf, 2 Sam 7:13, 14; Pen 22:9; 2 Cron 1:9Solomon dy fab, efe a adeilada fy nhŷ a’m cynteddau i; canys dewisais ef yn fab i mi, a minnau a fyddaf iddo ef yn dad.
7A’i frenhiniaeth ef a sicrhaf yn dragywydd, os efe a ymegnïa i wneuthur fy ngorchmynion a’m barnedigaethau i, megis y dydd hwn.
8Yn awr gan hynny, yng ngŵydd holl Israel, cynulleidfa yr Arglwydd, a lle y clywo ein Duw ni, cedwch a cheisiwch holl orchmynion yr Arglwydd eich Duw, fel y meddiannoch y wlad dda hon, ac y gadawoch hi yn etifeddiaeth i’ch meibion ar eich ôl yn dragywydd.
9A thithau Solomon fy mab, adnebydd Dduw dy dad, a gwasanaetha ef â chalon berffaith, ac â meddwl ewyllysgar: canys yr 1 Sam 16:7; 1 Bren 8:39; Pen 29:17; Salm 7:9; 139:2; Diar 17:3; Jer 11:20; 17:10; 20:12; Dat 2:23 Arglwydd sydd yn chwilio yr holl galonnau, ac yn deall pob dychymyg meddyliau. O cheisi ef, ti a’i cei; ond os gwrthodi ef, efe a’th fwrw di ymaith yn dragywydd.
10Gwêl yn awr mai yr Arglwydd a’th ddewisodd di i adeiladu tŷ y cysegr: ymgryfha, a gwna.
11Yna y rhoddes Dafydd i Solomon ei fab Edrych Exod 25:40; ad. 19bortread y porth, a’i dai, a’i selerau, a’i gellau, a’i ystafelloedd oddi fewn, a thŷ y drugareddfa,
12A phortread yr hyn oll a oedd ganddo trwy yr ysbryd, am gynteddau tŷ yr Arglwydd, ac am yr holl ystafelloedd o amgylch, am drysorau tŷ Dduw, ac am drysorau y pethau cysegredig:
13Ac am ddosbarthiadau yr offeiriaid a’r Lefiaid, ac am holl waith gweinidogaeth tŷ yr Arglwydd, ac am holl lestri gwasanaeth tŷ yr Arglwydd.
14Efe a roddes o aur wrth bwys, i’r pethau o aur, tuag at holl lestri pob gwasanaeth, ac arian i’r holl lestri arian, mewn pwys, tuag at holl lestri pob math ar wasanaeth:
15Sef pwys y canwyllbrenni aur, a’u lampau aur, wrth bwys i bob canhwyllbren ac i’w lampau: ac i’r canwyllbrennau arian wrth bwys, i’r canhwyllbren ac i’w lampau, yn ôl gwasanaeth pob canhwyllbren.
16Aur hefyd dan bwys, tuag at fyrddau y bara gosod, i bob bwrdd; ac arian i’r byrddau arian;
17Ac aur pur i’r cigweiniau, ac i’r ffiolau, ac i’r dysglau, ac i’r gorflychau aur, wrth bwys pob gorflwch: ac i’r gorflychau arian wrth bwys pob gorflwch;
18Ac i allor yr arogl‐darth, aur pur wrth bwys; ac aur i bortread cerbyd 1 Sam 4:4; 1 Bren 6:23, &cy ceriwbiaid oedd yn ymledu, ac yn gorchuddio arch cyfamod yr Arglwydd.
19Hyn oll, ebe Dafydd, Edrych Exod 25:40a wnaeth yr Arglwydd i mi ei ddeall mewn ysgrifen, trwy ei law ef arnaf fi, sef holl waith y portread hwn.
20A dywedodd Dafydd wrth Solomon ei fab, Deut 31:7, 8; Jos 1:6, 7, 9; Pen 22:13Ymgryfha, ac ymegnïa, a gweithia; nac ofna, ac nac arswyda: canys yr Arglwydd Dduw, fy Nuw i, fydd gyda thi; nid ymedy efe â thi, ac ni’th wrthyd, nes gorffen holl waith gwasanaeth tŷ yr Arglwydd.
21Wele hefyd ddosbarthiadau yr offeiriaid a’r Lefiaid, i holl wasanaeth tŷ Dduw, a chyda thi y maent yn yr holl waith, a Exod 35:25, 26; 36:1, 2phob un ewyllysgar cywraint i bob gwasanaeth; y tywysogion hefyd a’r bobl oll fyddant wrth dy orchymyn yn gwbl.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.