Actau’r Apostolion 26 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

A.D. 62. —2 Paul, yng ngŵydd Agrippa, yn dangos ei fuchedd o’i febyd; 12 ac mor rhyfeddol y troisid ac y galwesid ef i fod yn apostol. 24 Ffestus yn taeru ei fod ef wedi ynfydu: yntau ar hynny yn ateb yn llariaidd. 28 Agrippa ym mron myned yn Gristion. 31 Yr holl gynulleidfa yn ei farnu ef yn ddieuog.

1Ac Agripa a ddywedodd wrth Paul, Y mae cennad i ti i ddywedyd drosot dy hunan. Yna Paul a estynnodd ei law, ac a’i hamddiffynnodd ei hun.

2Yr ydwyf yn fy nhybied fy hun yn ddedwydd, O frenin Agripa, gan fy mod yn cael fy amddiffyn fy hun ger dy fron di heddiw, am yr holl bethau yr achwynir arnaf gan yr Iddewon:

3Yn bendifaddau gan wybod dy fod di yn gydnabyddus â’r holl ddefodau a’r holion sydd ymhlith yr Iddewon: oherwydd paham yr ydwyf yn deisyf arnat fy ngwrando i yn ddioddefgar.

4Fy muchedd i o’m mebyd, yr hon oedd o’r dechreuad ymhlith fy nghenedl yn Jerwsalem, a ŵyr yr Iddewon oll;

5Y rhai a’m hadwaenent i o’r dechrau, (os mynnant dystiolaethu,) mai yn ôl heb dor yn gwasanaethu Duw nos a dydd, yn gobeithio dyfod. Am yr hwn obaith yr achwynir arnaf, O frenin Agripa, gan yr Iddewon.

8Pa beth? ai anghredadwy y bernir gennych chwi, y cyfyd Duw y meirw?

9Minnau yn wir a dybiais ynof fy hun, fod yn rhaid i mi wneuthur llawer o bethau yn erbyn enw Iesu o Nasareth.

10Pen 8:3Yr hyn hefyd a wneuthum yn Jerwsalem: a llawer o’r saint a gaeais i mewn carcharau, wedi derbyn awdurdod gan yr archoffeiriaid; ac wrth eu difetha, mi a roddais farn yn eu herbyn.

11Ac ym mhob synagog yn fynych mi a’u cosbais hwy, ac a’u cymhellais i gablu; a chan ynfydu yn fwy yn eu herbyn, mi a’u herlidiais hyd ddinasoedd dieithr hefyd.

12Pen 9:3; 22:6Ac yn hyn, a myfi yn myned i Ddamascus ag awdurdod a chennad oddi wrth yr archoffeiriaid,

13Ar hanner dydd, O frenin, ar y ffordd, y gwelais oleuni o’r nef, mwy na disgleirdeb yr haul, yn disgleirio o’m hamgylch, a’r rhai oedd yn ymdaith gyda mi.

14Ac wedi i ni oll syrthio ar y ddaear, mi a glywais leferydd yn llefaru wrthyf, ac yn dywedyd yn Hebraeg, Saul, Saul, paham yr ydwyt yn fy erlid i? Caled yw i ti wingo yn erbyn y symbylau.

15Ac mi a ddywedais, Pwy wyt ti, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd, Myfi yw Iesu, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid.

16Eithr cyfod, a saf ar dy draed: canys i hyn yr ymddangosais i ti, i’th osod di yn weinidog ac yn dyst o’r pethau a welaist, ac o’r pethau yr ymddangosaf i ti ynddynt;

17Gan dy wared di oddi wrth y bobl, a’r Cenhedloedd, at y rhai yr ydwyf yn dy anfon di yr awron,

18Esa 35:5; 42:7; Luc 1:79; Eff 1:18I agoryd eu llygaid, ac Col 1:13; 1 Pedr 2:25i’w troi o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw; fel y derbyniont faddeuant pechodau, a Eff 1:11; Col 1:12chyfran ymysg y rhai a sancteiddiwyd, trwy’r ffydd sydd ynof fi.

19Am ba achos, O frenin Agripa, ni bûm anufudd i’r weledigaeth nefol:

20Eithr Pen 9:20, 22; 13; 14; 17; 18; 21mi a bregethais i’r rhai yn Namascus yn gyntaf, ac yn Jerwsalem, a thros holl wlad Jwdea, ac i’r Cenhedloedd; ar iddynt edifarhau, a dychwelyd at Dduw, a gwneuthur Mat 3:8gweithredoedd addas i edifeirwch.

21O achos y pethau hyn Pen 21:30yr Iddewon a’m daliasant i yn y deml, ac a geisiasant fy lladd i â’u dwylo eu hun.

22Am hynny, wedi i mi gael help gan Dduw, yr wyf fi yn aros hyd y dydd hwn, gan dystiolaethu i fychan a mawr, ac heb ddywedyd dim amgen nag a ddywedasai’r proffwydi a Moses y delent i ben;

23Y dioddefai Crist, ac 1 Cor 15:20; Col 1:18; Dat 1:5y byddai efe yn gyntaf o atgyfodiad y meirw, ac Luc 2:32y dangosai oleuni i’r bobl, ac i’r Cenhedloedd.

24Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn trosto, Ffestus a ddywedodd â llef uchel, Paul, 2 Bren 9:11; 1 Cor 4:10yr wyt ti yn ynfydu; llawer o ddysg sydd yn dy yrru di yn ynfyd.

25Ac efe a ddywedodd, Nid wyf fi yn ynfydu, O ardderchocaf Ffestus; eithr geiriau gwirionedd a sobrwydd yr wyf fi yn eu hadrodd.

26Canys y brenin a ŵyr oddi wrth y pethau hyn, wrth yr hwn yr wyf fi yn llefaru yn hy: oherwydd nid wyf yn tybied fod dim o’r pethau hyn yn guddiedig rhagddo; oblegid nid mewn congl y gwnaed hyn.

27O frenin Agripa, A wyt ti yn credu i’r proffwydi? Mi a wn dy fod yn credu.

28Ac Agripa a ddywedodd wrth Paul, Yr wyt ti o fewn ychydig i’m hennill i fod yn Gristion.

29A Phaul a ddywedodd, 1 Cor 7:7Mi a ddymunwn gan Dduw, o fewn ychydig, ac yn gwbl oll, fod nid tydi yn unig, ond pawb hefyd a’r sydd yn fy ngwrando heddiw, yn gyfryw ag wyf fi, ond y rhwymau hyn.

30Ac wedi iddo ddywedyd hyn, cyfododd y brenin, a’r rhaglaw, a Bernice, a’r rhai oedd yn eistedd gyda hwynt:

31Ac wedi iddynt fyned o’r neilltu, hwy a lefarasant wrth ei gilydd, gan ddywedyd, Pen 23:9; 25:25Nid yw’r dyn hwn yn gwneuthur dim yn haeddu angau, neu rwymau.

32Yna y dywedodd Agripa wrth Ffestus, Fe allasid gollwng y dyn yma ymaith, Pen 25:11oni buasai iddo apelio at Gesar.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help