1 Samuel 30 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Yr Amaleciaid yn ysbeilio Siclag. 7 Dafydd yn ymofyn â Duw, ac yn cael cysur i’w herlid hwy; 11 a thrwy waith Eifftiad, yn cael ei ddwyn at y gelynion, ac yn ennill adref yr holl ysbail. 22 Cyfraith Dafydd am rannu yr ysbail yn uniawn rhwng yr ymladdwyr a’r rhai a gadwent y dodrefn. 26 Efe yn anfon anrhegion i’w gyfeillion.

1A phan ddaeth Dafydd a’i wŷr i Siclag y trydydd dydd, yr Amaleciaid a ruthrasent ar du y deau, ac ar Siclag, ac a drawsent Siclag, ac a’i llosgasent hi â thân.

2Caethgludasent hefyd y gwragedd oedd ynddi: o fychan hyd fawr ni laddasent hwy neb, eithr dygasent hwy ymaith, ac aethent i’w ffordd.

3Felly y daeth Dafydd a’i wŷr i’r ddinas; ac wele hi wedi ei llosgi â thân: eu gwragedd hwynt hefyd, a’u meibion, a’u merched, a gaethgludasid.

4Yna dyrchafodd Dafydd a’r bobl oedd gydag ef eu llef, ac a wylasant, hyd nad oedd nerth ynddynt i wylo.

5Dwy wraig Dafydd hefyd a gaethgludasid, Ahinoam y Jesreeles, ac Abigail, gwraig Nabal y Carmeliad.

6A bu gyfyng iawn ar Dafydd; canys y bobl a feddyliasant ei labyddio ef; oherwydd chwerwasai enaid yr holl bobl, bob un am ei feibion, ac am ei ferched: ond Dafydd a ymgysurodd yn yr Arglwydd ei Dduw.

7A drannoeth: ac ni ddihangodd un ohonynt, oddieithr pedwar cant o wŷr ieuanc, y rhai a farchogasant ar gamelod, ac a ffoesant.

18A Dafydd a achubodd yr hyn oll a ddygasai yr Amaleciaid: Dafydd hefyd a waredodd ei ddwy wraig.

19Ac nid oedd yn eisiau iddynt, na bychan na mawr, na mab na merch, na’r anrhaith, na dim ag a ddygasent hwy ganddynt: hyn oll a ddug Dafydd adref.

20Dug Dafydd hefyd yr holl ddefaid, a’r gwartheg; y rhai a yrasant o flaen yr anifeiliaid eraill, ac a ddywedasant, Dyma anrhaith Dafydd.

21A Dafydd a ddaeth at y ddau cannwr a flinasent, fel na allent ganlyn Dafydd, ac a barasid iddynt aros wrth afon Besor: a hwy a aethant i gyfarfod Dafydd, ac i gyfarfod â’r bobl oedd gydag ef. A phan nesaodd Dafydd at y bobl, efe a gyfarchodd well iddynt.

22Yna yr atebodd pob gŵr drygionus, ac eiddo y fall, o’r gwŷr a aethai gyda Dafydd, ac a ddywedasant, Oherwydd nad aethant hwy gyda ni, ni roddwn ni iddynt hwy ddim o’r anrhaith a achubasom ni; eithr i bob un ei wraig, a’i feibion: dygant hwynt ymaith, ac ymadawant.

23Yna y dywedodd Dafydd, Ni wnewch chwi felly, fy mrodyr, am yr hyn a roddodd yr Arglwydd i ni, yr hwn a’n cadwodd ni, ac a roddodd y dorf a ddaethai i’n herbyn, yn ein llaw ni.

24Canys pwy a wrendy arnoch chwi yn y peth hyn? canys anrheg, o anrhaith gelynion yr Arglwydd;

27Sef i’r rhai oedd yn Bethel, ac i’r rhai oedd yn Jos 19:8Ramoth tua’r deau, ac i’r rhai oedd yn Jos 15:48Jattir,

28Ac i’r rhai oedd yn Jos 13:16Aroer, ac i’r rhai oedd yn Siffmoth, ac i’r rhai oedd yn Jos 15:50Estemoa,

29Ac i’r rhai oedd yn Rachal, ac i’r rhai oedd yn ninasoedd Pen 27:10y Jerahmeeliaid, ac i’r rhai oedd yn ninasoedd y Ceneaid,

30Ac i’r rhai oedd yn Horma, ac i’r rhai oedd yn Chorasan, ac i’r rhai oedd yn Athac,

31Ac i’r rhai oedd yn Hebron, ac i’r holl leoedd y buasai Dafydd a’i wŷr yn cyniwair ynddynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help