1 Corinthiaid 4 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

A.D. 59. —1 Pa gyfrif a ddylid ei wneuthur o weinidogion. 7 Nad oes gennym ni ddim a’r nas derbyniasom. 9 Bod yr apostolion yn ddrychau i’r byd, i’r angylion, ac i ddynion; 13 yn ysgubion ac yn sorod y byd: 15 ac er hynny eu bod yn dadau i ni yng Nghrist, 16 ac y dylem ni eu dilyn hwy.

1Felly cyfrifed dyn nyni, megis farn dyn: ac nid wyf chwaith yn fy marnu fy hun.

4Canys ni wn i ddim arnaf fy hun; ddrych i’r byd, ac i’r angylion, ac i ddynion.

10Pen 2:3 Yr ydym ni Act 17:18; 26:24yn ffyliaid er mwyn Crist, a chwithau yn ddoethion yng Nghrist; 2 Cor 13:9nyni yn weiniaid, a chwithau yn gryfion; chwychwi yn anrhydeddus, a ninnau yn ddirmygus.

112 Cor 4:8; 11:23Hyd yr awr hon yr ydym ni yn dwyn newyn a syched, ac yr ydym ni yn noethion, ac Act 23:2yn cael cernodiau, ac yn grwydraidd;

12Act 18:3; 20:34; 1 Thess 2:9; 2 Thess 3:8Ac yr ydym yn llafurio, gan weithio â’n dwylo’n hunain. Mat 5:44; Luc 6:28; 23:34; Act 7:60Pan y’n difenwir, yr ydym yn bendithio; pan y’n herlidir, yr ydym yn ei ddioddef;

13Pan y’n ceblir, yr ydym yn gweddïo: Galar 3:45fel ysgubion y byd y gwnaethpwyd ni, a sorod pob dim, hyd yn hyn.

14Nid i’ch gwaradwyddo chwi yr ydwyf yn ysgrifennu’r pethau hyn; ond eich rhybuddio yr wyf 1 Thess 2:11fel fy mhlant annwyl.

15Canys pe byddai i chwi ddeng mil o athrawon yng Nghrist, er hynny nid oes i chwi nemor o dadau: canys Act 18:11; Gal 4:19; Philem 10 Iago 1:18myfi a’ch cenhedlais chwi yng Nghrist Iesu trwy’r efengyl.

16Am hynny yr wyf yn atolwg i chwi, Pen 11:1; 2 Thess 3:9byddwch ddilynwyr i mi.

17Oblegid hyn yr anfonais atoch Timotheus, 1 Tim 1:2; 2 Tim 1:2yr hwn yw fy annwyl fab, a ffyddlon yn yr Arglwydd; yr hwn a ddwg ar gof i chwi fy ffyrdd i yng Nghrist, megis yr wyf ym mhob man yn athrawiaethu ym mhob eglwys.

18Ac y mae rhai wedi ymchwyddo, fel pe bawn i heb fod ar fedr dyfod atoch chwi.

19Act 19:21Eithr mi a ddeuaf atoch ar fyrder, Act 18:21; Rhuf 15:32os yr Arglwydd a’i myn; ac a fynnaf wybod, nid ymadrodd y rhai sydd wedi chwyddo, ond eu gallu.

20Canys Pen 2:4; 1 Thess 1:5nid mewn ymadrodd y mae teyrnas Dduw; eithr mewn gallu.

21Beth a fynnwch chwi? 2 Cor 10:2; 13:10ai dyfod ohonof fi atoch chwi â gwialen, ynteu mewn cariad, ac ysbryd addfwynder?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help