Rhufeiniaid 3 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

A.D. 60. —1 Rhagorfraint yr Iddewon: 3 yr hon ni chollasant: 9 er hynny y mae y ddeddf yn eu barnu hwythau hefyd yn euog o bechod: 20 gan hynny ni chyfiawnheir un cnawd trwy y ddeddf: 28 eithr pawb, heb wahaniaeth, trwy ffydd yn unig: 31 ac eto ni ddiddymwyd y ddeddf.

1Pa ragoriaeth gan hynny sydd i’r Iddew? neu pa fudd sydd o’r enwaediad?

2Llawer, ym mhob rhyw fodd: yn gyntaf, oherwydd pan y’th farner.

5Eithr os yw ein hanghyfiawnder ni yn canmol cyfiawnder Duw, pa beth a ddywedwn? Ai anghyfiawn yw Duw, yr hwn sydd yn dwyn arnom ddigofaint? (yn ôl dyn yr wyf yn dywedyd;)

6Na ato Duw: canys wrth hynny dan farn Duw.

20Am hynny osododd Duw yn iawn, trwy ffydd yn ei waed ef, i ddangos ei gyfiawnder ef, trwy faddeuant Act 17:30; Heb 9:15y pechodau a wnaethid o’r blaen, trwy ddioddefgarwch Duw;

26I ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn; fel y byddai efe yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu.

271 Cor 1:29, 31; Eff 2:9Pa le gan hynny y mae y gorfoledd? Efe a gaewyd allan. Trwy ba ddeddf? ai deddf gweithredoedd? Nage; eithr trwy ddeddf ffydd.

28Yr ydym ni gan hynny yn cyfrif Act 13:38; Pen 8:3; Gal 2:16mai trwy ffydd y cyfiawnheir dyn, heb weithredoedd y ddeddf.

29Ai i’r Iddewon y mae efe yn Dduw yn unig? onid yw i’r Cenhedloedd hefyd? Yn wir y mae efe i’r Cenhedloedd hefyd:

30Gan mai un Duw sydd, yr hwn a gyfiawnha’r enwaediad wrth ffydd, a’r dienwaediad trwy ffydd.

31Wrth hynny, a ydym ni yn gwneuthur y ddeddf yn ddi‐rym trwy ffydd? Na ato Duw: eithr yr ydym yn cadarnhau’r ddeddf.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help