1A phan oedd yr Arglwydd ar gymryd i fyny Eleias mewn corwynt i’r nefoedd, aeth Eleias ac Eliseus allan o Gilgal.
2Ac Eleias a ddywedodd wrth Eliseus, oddi arnat ti? Dywedodd yntau, Mi a wn hynny hefyd, tewch chwi â sôn.
4Ac Eleias a ddywedodd wrtho, Aros yma, atolwg, Eliseus; canys yr Arglwydd a’m hanfonodd i Jericho. Dywedodd yntau, Fel mai byw yr Arglwydd, ac mai byw dy enaid dithau, nid ymadawaf â thi. Felly hwy a ddaethant i Jericho.
5A meibion y proffwydi, y rhai oedd yn Jericho, a ddaethant at Eliseus, ac a ddywedasant wrtho, A wyddost ti mai heddiw y mae yr Arglwydd yn dwyn dy feistr oddi arnat ti? Yntau a ddywedodd, Mi a wn hynny hefyd, tewch chwi â sôn.
6Ac Eleias a ddywedodd wrtho, Aros yma, atolwg; canys yr Arglwydd a’m hanfonodd i’r Iorddonen. Dywedodd yntau, Fel mai byw yr Arglwydd, ac mai byw dy enaid dithau, nid ymadawaf â thi. A hwy a aethant ill dau rhagddynt.
7A dengwr a deugain o feibion y proffwydi a aethant, ac a safasant ar gyfer o bell: a hwy ill dau a safasant wrth yr Iorddonen.
8Ac Eleias a gymerth ei fantell, ac a’i plygodd ynghyd, ac a drawodd y dyfroedd, a Gofynnaist beth anodd: os gweli fi wrth fy nghymryd oddi wrthyt, fe fydd i ti felly; ac onid e, ni bydd.
11Ac fel yr oeddynt hwy yn myned dan rodio ac ymddiddan, wele wŷr cryfion; elont yn awr, ni a atolygwn, a cheisiant dy feistr: rhag i ryw fynydd, neu mewn rhyw ddyffryn. Dywedodd yntau, Na anfonwch.
17Eto buant daer arno, nes cywilyddio ohono, ac efe a ddywedodd, Anfonwch. A hwy a anfonasant ddengwr a deugain, y rhai a’i ceisiasant ef dridiau, ond nis cawsant.
18A hwy a ddychwelsant ato ef, ac efe oedd yn aros yn Jericho; ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Oni ddywedais i wrthych, Nac ewch?
19A gwŷr y ddinas a ddywedasant wrth Eliseus, Wele, atolwg, ansawdd y ddinas, da yw, fel y mae fy arglwydd yn gweled: ond y dyfroedd sydd ddrwg, a’r tir yn ddiffaith.
20Ac efe a ddywedodd, Dygwch i mi ffiol newydd, a dodwch ynddi halen. A hwy a’i dygasant ato ef.
21Ac efe a aeth at ffynhonnell y dyfroedd, ac Edrych Exod 15:25; Pen 4:41; 6:6; Ioan 9:6a fwriodd yr halen yno, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, Mi a iacheais y dyfroedd hyn; ni bydd oddi yno farwolaeth mwyach, na diffrwythdra.
22Felly yr iachawyd y dyfroedd hyd y dydd hwn, yn ôl gair Eliseus, yr hwn a ddywedasai efe.
23Ac efe a aeth i fyny oddi yno i Bethel: ac fel yr oedd efe yn myned i fyny ar hyd y ffordd, plant bychain a ddaeth allan o’r ddinas, ac a’i gwatwarasant ef, ac a ddywedasant wrtho ef, Dos i fyny, moelyn, dos i fyny, moelyn.
24Ac efe a drodd yn ei ôl, ac a edrychodd arnynt, ac a’u melltithiodd yn enw yr Arglwydd. A dwy arth a ddaeth allan o’r goedwig, ac a ddrylliodd ohonynt ddau blentyn a deugain.
25Ac efe a aeth oddi yno i fynydd Carmel, ac oddi yno efe a ddychwelodd i Samaria.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.