1Ac yr oedd un yn glaf, Lasarus o Fethania, o dref gynhyrfwyd;
34Ac a ddywedodd, Pa le y dodasoch chwi ef? Hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, tyred a gwêl.
35Luc 19:41Yr Iesu a wylodd.
36Am hynny y dywedodd yr Iddewon, Wele, fel yr oedd yn ei garu ef.
37Eithr rhai ohonynt a ddywedasant, Oni allasai hwn, Pen 9:6yr hwn a agorodd lygaid y dall, beri na buasai hwn farw chwaith?
38Yna yr Iesu drachefn a riddfanodd ynddo’i hunan, ac a ddaeth at y bedd. Ac ogof oedd, a maen oedd wedi ei ddodi arno.
39Yr Iesu a ddywedodd, Codwch ymaith y maen. Martha, chwaer yr hwn a fuasai farw, a ddywedodd wrtho, Arglwydd, y mae efe weithian yn drewi: herwydd y mae yn farw er ys pedwar diwrnod.
40Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Oni ddywedais i ti, pes credit, y cait ti Ad. 4weled gogoniant Duw?
41Yna y codasant y maen lle yr oedd y marw wedi ei osod. A’r Iesu a gododd ei olwg i fyny, ac a ddywedodd, Y Tad, yr wyf yn diolch i ti am i ti wrando arnaf.
42Ac myfi a wyddwn dy fod di yn fy ngwrando bob amser: eithr Pen 12:30er mwyn y bobl sydd yn sefyll o amgylch y dywedais, fel y credont mai tydi a’m hanfonaist i.
43Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a lefodd â llef uchel, Lasarus, tyred allan.
44A’r hwn a fuasai farw a ddaeth allan, yn rhwym ei draed a’i ddwylo mewn amdo: a’i Pen 20:7wyneb oedd wedi ei rwymo â napgyn. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Gollyngwch ef yn rhydd, a gadewch iddo fyned ymaith.
45Yna llawer o’r Iddewon, y rhai a ddaethent at Mair, ac a welsent y pethau a wnaethai yr Iesu, a gredasant ynddo ef.
46Eithr rhai ohonynt a aethant ymaith at y Phariseaid, ac a ddywedasant iddynt y pethau a wnaethai yr Iesu.
47 Salm 2:2; Mat 26:3; Marc 14:1 Yna yr archoffeiriaid a’r Phariseaid a gasglasant gyngor, ac a ddywedasant, Pen 12:19; Act 4:16Pa beth yr ydym ni yn ei wneuthur? canys y mae’r dyn yma yn gwneuthur llawer o arwyddion.
48Os gadawn ni ef fel hyn, pawb a gredant ynddo; ac fe a ddaw’r Rhufeiniaid, ac a ddifethant ein lle ni a’n cenedl hefyd.
49A rhyw un ohonynt, Luc 3:2; Ioan 18:14; Act 4:6Caiaffas, yr hwn oedd archoffeiriad y flwyddyn honno, a ddywedodd wrthynt, Nid ydych chwi’n gwybod dim oll,
50Nac yn ystyried, Pen 18:14mai buddiol yw i ni, farw o un dyn dros y bobl, ac na ddifether yr holl genedl.
51Hyn ni ddywedodd efe ohono ei hun: eithr, ac efe yn archoffeiriad y flwyddyn honno, efe a broffwydodd y byddai’r Iesu farw dros y genedl;
52Ac Esa 49:6; 1 Ioan 2:2nid dros y genedl yn unig, Eff 2:14, 15, 16eithr fel y casglai efe ynghyd yn un blant Duw hefyd y rhai a wasgarasid.
53Yna o’r dydd hwnnw allan y cyd‐ymgyngorasant fel y lladdent ef.
54Am hynny Pen 4:1, 3; 7:1ni rodiodd yr Iesu mwy yn amlwg ymysg yr Iddewon; ond efe a aeth oddi yno i’r wlad yn agos i’r anialwch, i ddinas a elwir Edrych 2 Cron 13:19Effraim, ac a arhosodd yno gyda’i ddisgyblion.
55A phasg yr Iddewon oedd yn agos: a llawer a aethant o’r wlad i fyny i Jerwsalem o flaen y pasg, i’w glanhau eu hunain.
56Pen 7:11Yna y ceisiasant yr Iesu; a dywedasant wrth ei gilydd, fel yr oeddynt yn sefyll yn y deml, Beth a dybygwch chwi, gan na ddaeth efe i’r ŵyl?
57A’r archoffeiriaid a’r Phariseaid a roesant orchymyn, os gwyddai neb pa le yr oedd efe, ar fynegi ohono, fel y gallent ei ddal ef.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.