2 Brenhinoedd 7 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Eliseus yn proffwydo helaethrwydd anghredadwy yn Samaria. 3 Pedwar gwahanglwyfus yn myned i wersyll y Syriaid, ac yn dangos iddynt ffoi. 12 Y brenin yn cael hynny yn wir, ac yn ysbeilio pebyll y Syriaid. 17 Y pennaeth ni choeliai eiriau y proffwyd, yn cael ei sathru dan draed nes ei farw.

1Yna Eliseus a ddywedodd, Gwrandewch air yr Arglwydd: Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd; sat o beilliaid er sicl, a dau sat o haidd er sicl, ym mhorth Samaria.

2Yna tywysog yr oedd y brenin yn pwyso ar ei law a atebodd ŵr Duw, ac a ddywedodd, Wele, pe gwnelai yr Arglwydd ffenestri yn y nefoedd, a fyddai y peth hyn? Dywedodd yntau, Wele, ti a’i gweli â’th lygaid, ond ni fwytei ohono.

3Ac yr oedd pedwar gŵr gwahanglwyfus rhyw ddrwg a ddigwydd i ni: deuwch gan hynny yn awr, ac awn fel y mynegom i dŷ y brenin.

10Felly hwy a ddaethant, ac a waeddasant ar borthor y ddinas; a hwy a fynegasant iddynt, gan ddywedyd, Daethom i wersyll y Syriaid, ac wele, nid oedd yno neb, na llais dyn, ond y meirch yn rhwym, a’r asynnod yn rhwym, a’r pebyll megis yr oeddynt o’r blaen.

11Ac efe a alwodd ar y porthorion; a hwy a’i mynegasant i dŷ y brenin oddi fewn.

12A’r brenin a gyfododd liw nos, ac a ddywedodd wrth ei weision, Mynegaf yn awr i chwi yr hyn a wnaeth y Syriaid i ni. Gwyddent mai newynog oeddem ni; am hynny yr aethant ymaith o’r gwersyll i ymguddio yn y maes, gan ddywedyd, Pan ddelont hwy allan o’r ddinas, ni a’u daliwn hwynt yn fyw, ac a awn i mewn i’r ddinas.

13Ac un o’r gweision a atebodd ac a ddywedodd, Cymer yn awr bump o’r meirch a adawyd, y rhai a adawyd yn y ddinas, (wele, y maent hwy fel holl liaws Israel, y rhai a arosasant ynddi; wele, y maent hwy fel holl liaws Israel, y rhai a ddarfuant;) ac anfonwn, ac edrychwn.

14Felly hwy a gymerasant feirch dau gerbyd: a’r brenin a anfonodd ar ôl gwersyll y Syriaid, gan ddywedyd, Ewch ac edrychwch.

15A hwy a aethant ar eu hôl hwynt hyd yr Iorddonen, ac wele, yr holl ffordd ydoedd yn llawn o ddillad a llestri, y rhai a fwriasai y Syriaid ymaith wrth frysio: a’r cenhadau a ddychwelsant ac a fynegasant i’r brenin.

16A’r bobl a aethant allan, ac a anrheithiasant wersyll y Syriaid: a bu sat o beilliaid er sicl, a dau sat o haidd er sicl, yn ôl gair yr Arglwydd.

17A’r brenin a osododd y tywysog yr oedd efe yn pwyso ar ei law i wylied ar y porth: a’r bobl a’i mathrasant ef yn y porth, ac efe fu farw, Pen 6:32; ad. 2megis y llefarasai gŵr Duw, yr hwn a ddywedasai hynny pan ddaeth y brenin i waered ato ef.

18A bu megis y llefarasai gŵr Duw wrth y brenin, gan ddywedyd, ad. 1Dau sat o haidd er sicl, a sat o beilliaid er sicl, fydd y pryd hwn yfory ym mhorth Samaria.

19A’r tywysog a atebasai ŵr Duw, ac a ddywedasai, Wele, pe gwnelai yr Arglwydd ffenestri yn y nefoedd, a fyddai y peth hyn? Dywedodd yntau, Wele, ti a’i gweli â’th lygaid, ond ni fwytei ohono.

20Ac felly y bu iddo ef: canys y bobl a’i sathrasant ef yn y porth, ac efe a fu farw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help