1A phan glybu Sanbalat, a Thobeia, a Gesem yr Arabiad, a’r rhan arall o’n gelynion, adeiladu ohonof fi y mur, ac nad oedd adwy wedi ei gadael ynddo; (Gasmu sydd yn dywedyd, dy fod di a’r Iddewon yn amcanu gwrthryfela: oherwydd hynny dy fod di yn adeiladu y mur, fel y byddit frenin arnynt, yn ôl y geiriau hyn;
7A’th fod dithau hefyd wedi gosod proffwydi i bregethu amdanat yn Jerwsalem, gan ddywedyd, Y mae brenin yn Jwda. Ac yn awr y fath ymadroddion â hyn a glyw y brenin: gan hynny tyred yn awr, ac ymgynghorwn ynghyd.
8Yna yr anfonais ato, gan ddywedyd, Ni ddarfu yn ôl yr ymadroddion hyn yr ydwyt ti yn eu dywedyd: ond o’th galon dy hun yr ydwyt yn eu dychmygu hwynt.
9Oblegid hwynt‐hwy oll oedd yn ceisio ein hofni ni, gan ddywedyd, Eu dwylo hwy a laesant oddi wrth y gwaith, fel nas gwneir ef. Gan hynny cryfha yn awr, O Dduw
, fy nwylo i.10A mi a ddeuthum i dŷ Semaia mab Delaia, mab Mehetabeel, yr hwn oedd wedi cau arno; ac efe a ddywedodd, Cyfarfyddwn yn nhŷ Dduw, a chaewn ddrysau y deml: canys y maent yn dyfod i’th ladd di; a lliw nos y deuant i’th ladd di.
11Yna y dywedais, a ffy gŵr o’m bath i? neu pwy sydd fel myfi yr hwn a elai i’r deml, fel y byddai byw? Nid af i mewn.
12Ac wele, gwybûm nad Duw a’i hanfonasai ef; ond llefaru ohono ef y broffwydoliaeth hon yn fy erbyn i: canys Tobeia a Sanbalat a’i cyflogasent ef.
13Oherwydd hyn y cyflogasid ef, fel y’m hofnid i, ac y gwnawn felly, ac y pechwn; ac y byddai hynny ganddynt yn enllib i’m herbyn, fel y’m gwaradwyddent.
14daw oedd efe i Sechaneia mab Ara; a Johanan ei fab ef a gymerasai ferch Mesulam mab Berecheia yn wraig iddo.
19A’i gymwynasau ef y byddent hwy yn eu mynegi ger fy mron i; fy ngeiriau innau hefyd y byddent yn eu hadrodd iddo yntau. A Thobeia a anfonodd lythyrau i’m dychrynu i.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.