Salm 108 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

SALM 1081 Dafydd yn ymwroli i foliannu Duw: 5 yn gweddïo am gymorth Duw yn ôl ei addewid. 11 Ei hyder ef ar gynorthwy Duw.Cân neu Salm Dafydd.

1 Salm 57:7, &c Parod yw fy nghalon, O Dduw: canaf a chanmolaf â’m gogoniant.

2Deffro, y nabl a’r delyn: minnau a ddeffroaf yn fore.

3Clodforaf di, Arglwydd, ymysg y bobloedd: canmolaf di ymysg y cenhedloedd.

4Canys mawr yw dy drugaredd oddi ar y nefoedd: a’th wirionedd a gyrraedd hyd yr wybren.

5 Salm 57:5, 11 Ymddyrcha, O Dduw, uwch y nefoedd: a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear;

6 Salm 60:5, &c Fel y gwareder dy rai annwyl: achub â’th ddeheulaw, a gwrando fi.

7 Duw a lefarodd yn ei sancteiddrwydd, Llawenychaf, rhannaf Sichem, a mesuraf ddyffryn Succoth.

8Eiddof fi yw Gilead; eiddof fi Manasse; Effraim hefyd yw nerth fy mhen: Jwda yw fy neddfwr.

9Moab yw fy nghrochan golchi; tros Edom y taflaf fy esgid: buddugoliaethaf ar Philistia.

10Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn? pwy a’m dwg hyd yn Edom?

11Onid tydi, O Dduw, yr hwn a’n bwriaist ymaith? ac onid ei di allan, O Dduw, gyda’n lluoedd?

12Dyro i ni gynhorthwy rhag cyfyngder: canys gau yw ymwared dyn.

13Trwy Dduw y gwnawn wroldeb: canys efe a sathr ein gelynion.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help