1Canys wele, yr Arglwydd, Arglwydd y lluoedd, anrhydeddus, a’r cynghorwr, a’r crefftwr celfydd, a’r areithiwr huawdl.
4A rhoddaf dwng yn y dydd hwnnw, gan ddywedyd, Ni byddaf iachawr; canys yn fy nhŷ nid oes fwyd na dillad: na osodwch fi yn dywysog i’r bobl.
8Canys cwympodd Jerwsalem, a syrthiodd Jwda: oherwydd eu tafod hwynt a’u gweithredoedd sydd yn erbyn yr Arglwydd, i gyffroi llygaid ei ogoniant ef.
9Dull eu hwynebau hwynt a dystiolaetha yn eu herbyn; a’u pechod fel fydd iddo.
12Fy mhobl dywysant sydd yn peri i ti gyfeiliorni, a ffordd dy lwybrau a ddistrywiant.
13Yr Arglwydd sydd yn sefyll i ymddadlau, ac yn sefyll i farnu y bobloedd.
14Yr Arglwydd a ddaw i farn â henuriaid ei bobl, a’u tywysogion: canys chwi a borasoch y winllan; anrhaith y tlawd sydd yn eich tai.
15Beth sydd i chwi a guroch ar fy mhobl, ac a faloch ar wynebau y tlodion? medd Arglwydd Dduw y lluoedd.
16A’r Arglwydd a ddywedodd, Oherwydd balchïo o ferched Seion, a rhodio â gwddf estynedig, ac â llygaid gwamal, gan rodio a rhygyngu wrth gerdded, a thrystio â’u traed:
17Am hynny y clafra yr Arglwydd gorunau merched Seion; a’r Arglwydd cadwynau, a’r breichledau, a’r moledau,
20Y penguwch, ac addurn y coesau, a’r ysnodennau, a’r dwyfronegau, a’r clustlysau,
21Y modrwyau, ac addurn y trwyn,
22Y gwisgoedd symudliw, a’r mentyll, a’r misyrnau, a’r crychnodwyddau,
23Y drychau hefyd, a’r lliain meinwych, a’r cocyllau, a’r gynau.
24A bydd yn lle perarogl, ddrewi; bydd hefyd yn lle gwregys, rwygiad; ac yn lle iawn drefn gwallt, foelni; ac yn lle dwyfronneg, gwregys o sachliain; a llosgfa yn lle prydferthwch.
25Dy wŷr a syrthiant gan y cleddyf, a’th gadernid trwy ryfel.
26A’i phyrth hi a ofidiant, ac a alarant: a hithau yn anrheithiedig a eistedd ar y ddaear.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
