1A bydd bladuriau: ac ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach.
4Ond 1 Bren 4:25; Sech 3:10eisteddant bob un dan ei winwydden a than ei ffigysbren, heb neb i’w dychrynu; canys genau Arglwydd y lluoedd a’i llefarodd.
5Canys Jer 2:11yr holl bobloedd a rodiant bob un yn enw ei dduw ei hun, a Sech 10:12ninnau a rodiwn yn enw yr Arglwydd ein Duw byth ac yn dragywydd.
6Yn y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd, Esec 34:16; Seff 3:19y casglaf y gloff, ac y cynullaf yr hon a yrrwyd allan, a’r hon a ddrygais:
7A gwnaf y gloff yn weddill, a’r hon a daflwyd ymhell, yn genedl gref; Dan 7:14; Luc 1:33a’r Arglwydd a deyrnasa arnynt ym mynydd Seion o hyn allan byth.
8A thithau, tŵr y praidd, castell merch Seion, hyd atat y daw, ie, y daw yr arglwyddiaeth bennaf, y deyrnas i ferch Jerwsalem.
9Paham gan hynny y gwaeddi waedd? Jer 8:19onid oes ynot frenin? a ddarfu am dy gynghorydd? canys gwewyr a’th gymerodd megis gwraig yn esgor.
10Ymofidia a griddfana, merch Seion, fel gwraig yn esgor: oherwydd yr awr hon yr ei di allan o’r ddinas, a thrigi yn y maes; ti a ei hyd Babilon: yno y’th waredir; yno yr achub yr Arglwydd di o law dy elynion.
11Yr awr hon hefyd llawer o genhedloedd a ymgasglasant i’th erbyn, gan ddywedyd, Haloger hi, a gweled ein llygaid hynny ar Seion.
12Ond ni wyddant hwy feddyliau yr Arglwydd, ac ni ddeallant ei gyngor ef: canys efe a’u casgl hwynt fel ysgubau i’r llawr dyrnu.
13Cyfod, merch Seion, a Esa 41:15, 16dyrna; canys gwnaf dy gorn yn haearn, a’th garnau yn bres; a thi a ddrylli bobloedd lawer: a chysegraf i’r Arglwydd eu helw hwynt, a’u golud i Sech 4:14; 6:5 Arglwydd yr holl ddaear.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
