1 Samuel 16 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

1 Samuel, wedi ei ddanfon gan Dduw, dan rith aberthu, yn dyfod i Bethlehem. 6 Ceryddu ei farn ddynol ef. 13 Efe yn eneinio Dafydd. 19 Saul yn danfon am Dafydd i lonyddu ei ysbryd drwg.

1A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Samuel, Pa hyd y galeri di am Saul, gan i mi ei fwrw ef ymaith o deyrnasu ar Israel? Llanw dy gorn ag olew, a dos; mi a’th anfonaf di at Jesse y Bethlehemiad: canys ymysg ei feibion ef y darperais i mi frenin.

2A Samuel a ddywedodd, Pa fodd yr af fi? os Saul a glyw, efe a’m lladd i. A dywedodd yr Arglwydd, Cymer anner‐fuwch gyda thi, a dywed, Deuthum fel yr edrych dyn: canys dyn a edrych ar y golygiad; ond Samma ddyfod. A dywedodd yntau, Ni ddewisodd yr Arglwydd hwn chwaith.

10Yna y parodd Jesse i’w saith mab ddyfod gerbron Samuel. A Samuel a ddywedodd wrth Jesse, Ni ddewisodd yr Arglwydd y rhai hyn.

11Dywedodd Samuel hefyd wrth Jesse, Ai dyma dy holl blant? Yntau a ddywedodd, Yr ieuangaf eto sydd yn ôl; ac wele, mae blinodd ef.

15A gweision Saul a ddywedasant wrtho ef, Wele yn awr, drwg ysbryd oddi wrth Dduw sydd yn dy flino di.

16Dyweded, atolwg, ein meistr ni wrth dy weision sydd ger dy fron, am iddynt geisio gŵr yn medru canu telyn: a bydd, pan ddelo drwg ysbryd oddi wrth Dduw arnat ti, yna iddo ef ganu â’i law; a da fydd i ti.

17A dywedodd Saul wrth ei weision, Edrychwch yn awr i mi am ŵr yn medru canu yn dda, a dygwch ef ataf fi.

18Ac un o’r llanciau a atebodd, ac a ddywedodd, Wele, gwelais fab i Jesse y Bethlehemiad, yn medru canu, ac yn rymus o nerth, ac yn rhyfelwr, yn ddoeth o ymadrodd hefyd, ac yn ŵr lluniaidd; a’r Arglwydd sydd gydag ef.

19Yna yr anfonodd Saul genhadau at Jesse, ac a ddywedodd, Anfon ataf fi Dafydd dy fab, yr hwn sydd gyda’r praidd.

20A Jesse a gymerth asyn llwythog o fara, a chostrelaid o win, a myn gafr, ac a’u hanfonodd gyda Dafydd ei fab at Saul.

21A Dafydd a ddaeth at Saul, ac a safodd ger ei fron ef: yntau a’i hoffodd ef yn fawr; ac efe a aeth yn gludydd arfau iddo ef.

22A Saul a anfonodd at Jesse, gan ddywedyd, Arhosed Dafydd, atolwg, ger fy mron i: canys efe a gafodd ffafr yn fy ngolwg.

23A phan fyddai ad. 14y drwg ysbryd oddi wrth Dduw ar Saul, y cymerai Dafydd delyn, ac y canai â’i ddwylo; a byddai esmwythdra i Saul; a da oedd hynny iddo, a’r ysbryd drwg a giliai oddi wrtho.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help