1 Ioan 5 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

A.D. Gwedi 90. —1 Y neb sydd yn caru Duw sydd yn caru ei blant ef hefyd, ac yn cadw ei orchmynion ef, 3 y rhai sydd ysgafn, ac nid trymion, i’r ffyddloniaid. 9 Y mae Iesu yn Fab Duw, ac yn abl i’n hachub ni; 14 ac i wrando ein gweddïau, y rhai yr ydym yn eu gwneuthur drosom ein hunain, a thros eraill.

1 tuag ato ef; ei fod ef yn ein gwrando ni, Pen 3:22os gofynnwn ddim yn ôl ei ewyllys ef.

15Ac os gwyddom ei fod ef yn ein gwrando ni, pa beth bynnag a ddeisyfom, ni a wyddom ein bod yn cael y deisyfiadau a ddeisyfasom ganddo.

16Os gwêl neb ei frawd yn pechu pechod nid yw i farwolaeth, efe a ddeisyf, ac Iago 5:14, 15efe a rydd iddo fywyd, i’r rhai sydd yn pechu nid i farwolaeth. Mat 12:31, 32; Marc 3:29; Heb 6:4; 10:26Y mae pechod i farwolaeth: nid am hwnnw yr wyf yn dywedyd ar ddeisyf ohono.

17Pen 3:4Pob anghyfiawnder, pechod yw: ac y mae pechod nid yw i farwolaeth.

18Ni a wyddom nad yw’r 1 Pedr 1:23; Pen 3:9neb a aned o Dduw, yn pechu; eithr y mae’r hwn a aned o Dduw, yn ei gadw ei hun, a’r drwg hwnnw nid yw yn cyffwrdd ag ef.

19Ni a wyddom ein bod o Dduw, ac y mae’r holl fyd yn gorwedd mewn drygioni.

20Ac a wyddom ddyfod Mab Duw, ac efe Luc 24:45a roes i ni feddwl, fel yr adnabyddom yr hwn sydd gywir; ac yr ydym yn y Cywir hwnnw, sef yn ei Fab ef Iesu Grist. Esa 9:6; 44:6; 54:5; Ioan 20:28; Rhuf 9:5; 1 Tim 3:16; Titus 2:13Hwn yw’r gwir Dduw, a’r bywyd tragwyddol.

21Y plant bychain, 1 Cor 10:14ymgedwch oddi wrth eilunod. Amen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help