1Os ceir un wedi ei ladd o fewn y tir yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti i’w etifeddu, yn gorwedd yn y maes, heb wybod pwy a’i lladdodd;
2Yna aed dy henuriaid a’th farnwyr allan, a mesurant hyd y dinasoedd sydd o amgylch i’r lladdedig.
3A bydded i’r ddinas nesaf at y lladdedig, sef henuriaid y ddinas honno, gymryd anner o’r gwartheg, yr hon ni weithiwyd â hi, ac ni thynnodd dan iau.
4A dyged henuriaid y ddinas honno yr anner i ddyffryn garw, yr hwn ni lafuriwyd, ac ni heuwyd ynddo; ac yno torfynyglant yr anner yn y dyffryn.
5A nesaed yr offeiriaid, meibion Lefi, (oherwydd yr Arglwydd dy Dduw barn hwynt y terfynir pob ymryson a phob pla.
6A holl henuriaid y ddinas honno, y rhai a fyddo nesaf at y lladdedig, yn erbyn dy bobl Israel. A maddeuir y gwaed iddynt hwy.
9Felly y tynni ymaith affaith y gwaed gwirion o’th fysg, os ti a wnei yr uniawnder yng ngolwg yr Arglwydd.
10Pan elych i ryfel yn erbyn dy elynion, a rhoddi o’r Arglwydd dy Dduw hwynt yn dy law di, a chaethgludo ohonot gaethglud ohonynt;
11A gweled ohonot yn y gaethglud wraig brydweddol, a’i bod wrth dy fodd, i’w chymryd i ti yn wraig:
12Yna dwg hi i fewn dy dŷ, ac eillied hi ei phen, a thorred ei hewinedd;
13A diosged ddillad ei chaethiwed oddi amdani, a thriged yn dy dŷ di, ac sydd i’r hwn a grogir: ac na haloga dy dir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
