Titus 2 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

A.D. 65. —1 Y mae yn hyfforddi Titus yn ei athrawiaeth, ac yn ei fuchedd. 9 Rhan gweision, a phob math o Gristonogion.

1Eithr llefara di’r pethau a weddo i yn sobr, yn onest, yn gymesur, yn iach yn y ffydd, yng nghariad, mewn amynedd:

3Bod o’r sancteiddrwydd; nid yn enllibaidd, nid wedi ymroi i win lawer, yn rhoi athrawiaeth o ddaioni:

4Fel y gallont wneuthur y gwragedd ieuainc yn bwyllog, i garu eu gwŷr, i garu eu plant,

5Yn sobr, yn bur, yn gwarchod gartref, yn dda, 1 Cor 14:34; Eff 5:22; Col 3:18; 1 Pedr 3:1yn ddarostyngedig i’w gwŷr priod, Rhuf 2:24; 1 Tim 6:1fel na chabler gair Duw.

6Y gwŷr ieuainc yr un ffunud cynghora i fod yn sobr:

71 Tim 4:12Gan dy ddangos dy hun ym mhob peth yn siampl i weithredoedd da: a dangos, mewn athrawiaeth, anllygredigaeth, gweddeidd‐dra, purdeb,

81 Tim 6:3Ymadrodd iachus yr hwn ni aller beio arno; 1 Tim 5:14; 1 Pedr 2:12, 15; 3:16fel y byddo i’r hwn sydd yn y gwrthwyneb gywilyddio, heb ganddo ddim drwg i’w ddywedyd amdanoch chwi.

9Cynghora Eff 6:5weision i fod yn ddarostyngedig i’w meistriaid eu hun, ac i ryngu bodd iddynt Eff 5:24ym mhob peth; nid yn gwrthddywedyd;

10Nid yn darnguddio, ond yn dangos pob ffyddlondeb da; fel yr harddont athrawiaeth Duw ein Hiachawdwr ym mhob peth.

11Canys ymddangosodd Pen 3:4gras Duw, yr hwn sydd yn dwyn iachawdwriaeth i bob dyn;

12Gan ein dysgu ni Col 1:22i wadu annuwioldeb a chwantau bydol, a byw yn sobr, ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol, yn y byd sydd yr awron;

131 Cor 1:7; Phil 3:20Gan ddisgwyl am y gobaith gwynfydedig, ac ymddangosiad gogoniant y Duw mawr, a’n Hiachawdwr Iesu Grist;

14Gal 1:4; 2:20Yr hwn a’i rhoddes ei hun drosom, i’n prynu ni oddi wrth bob anwiredd, ac i’n puro ni iddo ei hun Exod 15:16; 19:5yn bobl briodol, Eff 2:10awyddus i weithredoedd da.

15Y pethau hyn llefara a chynghora, ac argyhoedda gyda phob awdurdod. 1 Tim 4:12Na ddiystyred neb di.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help