1 cynyddant, ie, dygant ffrwyth; tuag atat; tyn allan hwynt megis defaid i’r lladdfa, a pharatoa hwynt erbyn dydd y lladdfa.
4Pa hyd y galara y tir, ac y gwywa gwellt yr holl faes, waeddasant yn groch ar dy ôl: geiriau teg wrthyt.
7Gadewais fy nhŷ, gadewais fy etifeddiaeth; mi a roddais anwylyd fy enaid yn llaw ei gelynion.
8Fy etifeddiaeth sydd i mi megis llew yn y coed, rhuo y mae i’m herbyn; am hynny caseais hi.
9Y mae fy etifeddiaeth i mi fel aderyn brith; y mae yr adar o amgylch yn ei herbyn hi: deuwch, ymgesglwch, holl fwystfilod y maes, deuwch i ddifa.
10Bugeiliaid lawer a ddistrywiasant fy ngwinllan; sathrasant fy rhandir, fy rhandir dirion a wnaethant yn ddiffeithwch anrheithiol.
11Gwnaethant hi yn anrhaith, ac wedi ei hanrheithio y galara hi wrthyf: y tir i gyd a anrheithiwyd, am nad oes neb yn ei gymryd at ei galon.
12Anrheithwyr a ddaethant ar yr holl fryniau trwy’r anialwch: canys cleddyf yr Arglwydd a ddifetha o’r naill gwr i’r ddaear hyd y cwr arall i’r ddaear: nid oes heddwch i un cnawd.
13Lef 26:16; Deut 28:38; Micha 6:15; Hag 1:6Heuasant wenith, ond hwy a fedant ddrain; ymboenasant, ond ni thycia iddynt: a hwy a gywilyddiant am eich ffrwythydd chwi, oherwydd llid digofaint yr Arglwydd.
14Fel hyn y dywed yr Arglwydd yn erbyn fy holl gymdogion drwg, y rhai sydd yn cyffwrdd â’r etifeddiaeth a berais i’m pobl Israel ei hetifeddu, Wele, mi Deut 30:3; Pen 32:37a’u tynnaf hwy allan o’u tir, ac a dynnaf dŷ Jwda o’u mysg hwynt.
15Ac wedi i mi eu tynnu hwynt allan, mi a ddychwelaf ac a drugarhaf wrthynt; a dygaf hwynt drachefn bob un i’w etifeddiaeth, a phob un i’w dir.
16Ac os gan ddysgu y dysgant ffyrdd fy mhobl, i dyngu i’m henw, Byw yw yr Arglwydd, (megis y dysgasant fy mhobl i dyngu i Baal,) yna yr adeiledir hwy yng nghanol fy mhobl.
17Eithr oni Esa 60:12wrandawant, yna gan ddiwreiddio y diwreiddiaf fi y genedl hon, a chan ddifetha myfi a’i dinistriaf hi, medd yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.