Mathew 22 - Beibl William Morgan - 1955 Edition with cross-references

A.D. 33. —1 Dameg priodas mab y brenin. 9 Galwedigaeth y Cenhedloedd. 12 Cosbedigaeth yr hwn nid oedd ganddo wisg briodas. 15 Y dylid talu teyrnged i Cesar. 23 Crist yn gostegu y Sadwceaid ynghylch yr atgyfodiad: 34 yn ateb y cyfreithiwr, pa un yw y gorchymyn cyntaf, a’r mawr; 41 ac yn holi y Phariseaid ynghylch y Meseia.

1A’r Iesu a atebodd, i’r priffyrdd, a chynifer ag a gaffoch, gwahoddwch i’r briodas.

10A’r gweision hynny a aethant allan i’r prif‐ffyrdd, ac seithfed.

27Ac yn ddiwethaf oll bu farw’r wraig hefyd.

28Yn yr atgyfodiad, gan hynny, gwraig i bwy o’r saith fydd hi? canys hwynt‐hwy oll a’i cawsant hi.

29A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr ydych yn cyfeiliorni, gan na wyddoch yr ysgrythurau, na gallu Duw.

30Oblegid yn yr atgyfodiad nid ydynt nac yn gwreica, nac yn gwra; eithr 1 Ioan 3:2y maent fel angylion Duw yn y nef.

31Ac am atgyfodiad y meirw, oni ddarllenasoch yr hyn a ddywedwyd wrthych gan Dduw, gan ddywedyd,

32Exod 3:6, 16; Marc 12:26; Luc 20:37; Act 7:32; Heb 11:16Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob? Nid yw Duw Dduw y rhai meirw, ond y rhai byw.

33A phan glybu’r torfeydd hynny, Pen 7:28hwy a synasant wrth ei athrawiaeth ef.

34 Marc 12:28 Ac wedi clywed o’r Phariseaid ddarfod i’r Iesu ostegu’r Sadwceaid, hwy a ymgynullasant ynghyd i’r un lle.

35Ac un ohonynt, yr hwn oedd gyfreithiwr, a ofynnodd iddo, gan ei demtio, a dywedyd,

36Athro, pa un yw’r gorchymyn mawr yn y gyfraith?

37A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Deut 6:5; 10:12; 30:6; Luc 10:27Ceri yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl feddwl.

38Hwn yw’r cyntaf, a’r gorchymyn mawr.

39A’r ail sydd gyffelyb iddo; Lef 19:18; Marc 12:31; Rhuf 13:9; Gal 5:14; Iago 2:8Câr dy gymydog fel ti dy hun.

40Pen 7:12Ar y ddau orchymyn hyn y mae’r holl gyfraith a’r proffwydi yn sefyll.

41Ac Marc 12:35; Luc 20:41wedi ymgasglu o’r Phariseaid ynghyd, yr Iesu a ofynnodd iddynt,

42Gan ddywedyd, Beth a dybygwch chwi am Grist? mab i bwy ydyw? Dywedent wrtho, Mab Dafydd.

43Dywedai yntau wrthynt, Pa fodd gan hynny y mae Dafydd yn yr ysbryd yn ei alw ef yn Arglwydd, gan ddywedyd,

44Salm 110:1; Act 2:34; 1 Cor 15:25; Heb 1:13; 10:12, 13Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed di?

45Os yw Dafydd gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd, pa fodd y mae efe yn fab iddo?

46Ac ni allodd neb ateb gair iddo, ac ni feiddiodd neb o’r dydd hwnnw allan ymofyn ag ef mwyach.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help