1Yna y bu, pan ddechreuodd dynion amlhau ar wyneb y ddaear, a geni merched iddynt,
2Weled o feibion Duw ferched dynion mai teg oeddynt hwy; a hwy a gymerasant iddynt wragedd o’r rhai oll a ddewisasant.
3A dywedodd yr Arglwydd, Nid ymrysona fy Ysbryd i â dyn yn dragywydd, amser.
6Ac perffaith yn ei oes: gyda Duw y rhodiodd Noa.
10A Noa a genhedlodd dri o feibion, Sem, Cham, a Jaffeth.
11A’r ddaear a lygrasid gerbron Duw; llanwasid y ddaear hefyd â thrawsedd.
12A Duw a edrychodd ar y ddaear, ac wele hi a lygrasid; canys pob cnawd a lygrasai ei ffordd ar y ddaear.
13A Duw a ddywedodd wrth Noa, Diwedd pob cnawd a ddaeth ger fy mron: oblegid llanwyd y ddaear â thrawsedd trwyddynt hwy: ac wele myfi a’u difethaf hwynt gyda’r ddaear.
14Gwna i ti arch o goed Goffer; yn gellau y gwnei yr arch, a phyga hi oddi mewn ac oddi allan â phyg.
15Ac fel hyn y gwnei di hi: tri chan cufydd fydd hyd yr arch, deg cufydd a deugain ei lled, a deg cufydd ar hugain ei huchder.
16Gwna ffenestr i’r arch, a gorffen hi yn gufydd oddi arnodd; a gosod ddrws yr arch yn ei hystlys: o dri uchder y gwnei di hi.
17Ac wele myfi, ie myfi, yn dwyn dyfroedd dilyw ar y ddaear, i ddifetha pob cnawd, yr hwn y mae anadl einioes ynddo, oddi tan y nefoedd: yr hyn oll sydd ar y ddaear a drenga.
18Ond â thi y cadarnhaf fy nghyfamod; ac 1 Pedr 3:20; 2 Pedr 2:5i’r arch yr ei di, tydi a’th feibion, a’th wraig, a gwragedd dy feibion gyda thi.
19Ac o bob peth byw, o bob cnawd, y dygi ddau o bob rhyw i’r arch i’w cadw yn fyw gyda thi; gwryw a benyw fyddant.
20O’r ehediaid wrth eu rhywogaeth, ac o’r anifeiliaid wrth eu rhywogaeth, o bob ymlusgiad y ddaear wrth eu rhywogaeth; dau o bob rhywogaeth Pen 2:19a ddaw atat i’w cadw yn fyw.
21A chymer i ti o bob bwyd a fwyteir, a chasgl atat; a bydd yn ymborth i ti ac iddynt hwythau.
22Pen 7:5; Heb 11:7Felly y gwnaeth Noa, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Duw iddo, felly y gwnaeth efe.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.