1Er hyn oll mi a ystyriais yn fy nghalon, i ddangos hyn oll; bod y cyfiawn, a’r doethion, a’u gweithredoedd, yn llaw Duw: ni ŵyr dyn gariad, neu gas, wrth yr hyn oll sydd o’u blaen.
2Dwg dy fyd yn llawen gyda’th wraig annwyl holl ddyddiau bywyd dy oferedd, y rhai a roddes efe i ti dan yr haul, holl ddyddiau dy oferedd: Pen 2:10, 24; 3:13; 5:18canys dyna dy ran di yn y bywyd yma, ac yn dy lafur a gymeri dan yr haul.
10Beth bynnag a ymafael dy law ynddo i’w wneuthur, gwna â’th holl egni: canys nid oes na gwaith, na dychymyg, na gwybodaeth, na doethineb, yn y bedd, lle yr wyt ti yn myned.
11Mi a droais, ac a welais dan haul, nad yw y rhedfa yn eiddo y cyflym, na’r rhyfel yn eiddo y cedyrn, na’r bwyd yn eiddo y doethion, na chyfoeth yn eiddo y pwyllog, na ffafr yn eiddo y cyfarwydd: ond amser a damwain a ddigwydd iddynt oll.
12Canys Pen 8:7ni ŵyr dyn chwaith ei amser: fel y pysgod a ddelir â’r rhwyd niweidiol, ac fel yr adar a ddelir yn y delm; felly Diar 29:6; Luc 12:20, 39y delir plant dynion yn amser drwg, pan syrthio arnynt yn ddisymwth.
13Hefyd y doethineb hyn a welais i dan haul, ac sydd fawr gennyf fi:
14Edrych 2 Sam 20:16–22 Yr oedd dinas fechan, ac ynddi ychydig wŷr; a brenin mawr a ddaeth yn ei herbyn hi, ac a’i hamgylchynodd, ac a gododd glawdd uchel yn ei herbyn:
15A chafwyd ynddi ŵr tlawd doeth, ac efe a waredodd y ddinas honno â’i ddoethineb: eto ni chofiodd neb y gŵr tlawd hwnnw.
16Diar 21:22; 24:5; Pen 7:19Yna y dywedais, Gwell yw doethineb na nerth: er hynny dirmygir doethineb y tlawd, ac ni wrandewir ar ei eiriau ef.
17Geiriau y doethion a wrandewir mewn distawrwydd, rhagor bloedd yr hwn sydd yn llywodraethu ymysg ffyliaid.
18Gwell yw doethineb nag arfau rhyfel; ond un pechadur a ddinistria lawer o ddaioni.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.